Colin Ingram, seren y bêl wen (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Roedd buddugoliaeth ryfeddol i Forgannwg yn Chelmsford y prynhawn yma, wrth iddyn nhw lwyddo i gwrso 220 i guro Swydd Essex o bum wiced yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast.

Dyma’r nod fwyaf erioed iddyn nhw ei chwrso’n llwyddiannus mewn gêm ugain pelawd, a’u hail sgôr uchaf erioed.

Tarodd Colin Ingram naw chwech ar ei ffordd i 114 – ei sgôr gorau erioed mewn gêm ugain pelawd yn y T20 Blast.

Hwn oedd ei drydydd canred yn y T20 Blast eleni, a’i ail yr wythnos hon yn dilyn ei 101 heb fod allan yn erbyn Swydd Sussex yn Arundel ddydd Sul diwethaf.

Hwn hefyd oedd ei drydydd canred yn olynol yn Chelmsford, ac fe gyrhaeddodd y garreg filltir oddi ar 55 o belenni, gan daro wyth pedwar.

Ond fe allai’r Saeson fod wedi’i gael e allan ar 13 pe bai’r capten Ryan ten Doeschate wedi dal ei afael ar y bêl.

Swydd Essex yn rhoi pwysau ar y Cymry

Wrth i Swydd Essex sgorio 219-4, tarodd yr agorwr Varun Chopra 103 oddi ar 59 o belenni, gan gynnwys wyth chwech. Hwn oedd ei sgôr gorau yntau mewn gêm ugain pelawd hefyd, ac fe adeiladodd e bartneriaeth o 122 am y bumed wiced gyda Ravi Bopara, oedd wedi taro pum chwech ar ei ffordd i 63 oddi ar 32 o belenni.

Roedd angen pob pelen o’r batiad ar Forgannwg i sicrhau’r fuddugoliaeth, wrth i Craig Meschede daro chwech oddi ar y belen olaf un gan Paul Walter i ennill y gêm, a chyrraedd 224-5, eu hail sgôr uchaf erioed mewn gêm ugain pelawd.