Mae’r gêm ugain pelawd rhwng Morgannwg a Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth y T20 Blast wedi dod i ben yn gyfartal ar ôl 17.2 o belawdau o ganlyniad i law trwm yng Nghaerdydd.

Roedd oedi o 35 munud cyn i’r ornest ddechrau, ond ni chafodd yr un belen ei cholli bryd hynny ac ar ôl galw’n gywir, roedd Gwlad yr Haf wedi gwahodd Morgannwg i fatio.

Roedd Gwlad yr Haf eisoes wedi colli naw gêm yn olynol yn y gystadleuaeth cyn heno, ond fe gawson nhw lwyddiant ar ddechrau’r ornest wrth i Lewis Gregory gipio wiced David Lloyd oddi ar ail belen ei belawd gyntaf, wrth i’r batiwr gael ei ddal i lawr ochr y goes gan y wicedwr Steven Davies am un.

Ond daeth Aneurin Donald i’r llain a dechrau clatsio, gan dynnu Craig Overton am bedwar cyn ei sgubo dros ben y wicedwr am chwech.

Ar ôl taro canred oddi ar 46 o belenni yn erbyn Swydd Sussex yn Arundel yr wythnos ddiwethaf, roedd Colin Ingram yn barod i ymosod unwaith eto, gan daro Tim Groenewald am 14 oddi ar un belawd, gan gynnwys chwech anferth a laniodd 14 rhes yn ôl yn yr eisteddle.

Ond cipiodd Gwlad yr Haf ail wiced pan darodd Aneurin Donald y bêl i ddwylo Jim Allenby oddi ar Lewis Gregory am 24 – oddi ar 13 o belenni.

Parhau i glatsio wnaeth Colin Ingram, fodd bynnag, a tharo Jim Allenby am chwech arall cyn cael ei ddal ar y ffin ar ochr y goes am 39 oddi ar 21 o belenni.

Roedd Morgannwg wedi cyrraedd 92-3 erbyn hanner ffordd trwy eu pelawdau, ond fe gollon nhw bedwaredd wiced wrth i’r troellwr coes Max Waller gipio daliad campus oddi ar ei fowlio’i hun i waredu Andrew Salter.

Adeiladodd Jacques Rudolph a Chris Cooke bartneriaeth o 52 mewn 4.2 o belawdau, ond fe ddaeth i ben wrth i Cooke daro pelen lac i Max Waller ar yr ochr agored oddi ar fowlio Tim Groenewald.

Cyrhaeddodd Jacques Rudolph ei hanner canred oddi ar 28 o belenni, gan daro pedwar pedwar a dau chwech wrth i Forgannwg gyrraedd 158-5 ar ôl 16 pelawd.

Ond dim ond 1.2 pelawd arall oedd yn bosib cyn i’r glaw ddod, ac roedd Morgannwg erbyn hynny wedi cyrraedd 171-5.

Bydd Morgannwg yn teithio i Chelmsford i herio Swydd Essex am 2.30 yfory, tra bod taith i Uxbridge o flaen Gwlad yr Haf wrth iddyn nhw herio Swydd Middlesex.

Mae Gwlad yr Haf bellach heb fuddugoliaeth mewn 10 gêm – ond mae’r selogion yn falch mai gêm gyfartal gawson nhw heno, ac nid degfed colled o’r bron.