Mae Morgannwg wedi colli o naw wiced yn erbyn Swydd Durham yn Durham ar ddiwrnod olaf eu gêm yn ail adran y Bencampwriaeth.
Roedd Morgannwg wedi bod yn brwydro am gêm gyfartal, ond nod o 157 oedd gan y Saeson yn y pen draw.
Ac fe gyrhaeddon nhw’r nod mewn 43 o belawdau’n unig wrth i Stephen Cook daro 89 heb fod allan yn ei gêm olaf i Swydd Durham.
Roedd hanner canred hefyd i Cameron Steel (51) ar ôl i Forgannwg fethu â manteisio ar dri chyfle i’w gael e allan.
Roedd Morgannwg yn 263 i gyd allan yn eu hail fatiad wrth geisio gosod nod sylweddol i’r Saeson, wrth i Colin Ingram daro saith pedwar a chwech wrth sgorio 70 heb fod allan.
Ac fe sgoriodd y bowliwr cyflym o Bontarddulais, Lukas Carey 49 i gryfhau safle Morgannwg yn gynharach yn y dydd.
Ond collodd y Cymry dair wiced mewn tair pelawd i roi’r gêm yn nwylo’r Saeson.
Roedd ymgais hwyr arall gan Forgannwg wrth i Marchant de Lange a Michael Hogan adeiladu partneriaeth o 40 am y nawfed wiced.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Swydd Durham wedi ennill gêm Bencampwriaeth am y tro cyntaf y tymor hwn, gan amddifadu Morgannwg o’r cyfle i ennill tair gêm o’r bron.