Brwydrodd Swydd Durham yn ôl er mwyn sicrhau eu bod nhw 14 o rediadau’n unig y tu ôl i Forgannwg ar ddechrau trydydd diwrnod eu gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yn Durham.

Tarodd Graham Clark 109 – ei ganred cyntaf erioed – wrth i Swydd Durham gyrraedd 281-4 dros nos, ar ôl i Forgannwg sgorio 295 yn eu batiad cyntaf.

Roedd Swydd Durham yn 87-3 pan ddaeth Graham Clark a’i gapten Paul Collingwood ynghyd, ac fe adeiladon nhw bartneriaeth o 185, sy’n record yn erbyn Morgannwg.

Mae Paul Collingwood heb fod allan ar 72, ei chweched hanner canred mewn saith batiad, gan gynnwys 127 a 92 yn erbyn Morgannwg ar gae San Helen yn Abertawe.

Dywedodd Graham Clark ei bod hi’n “rhyddhad” cael cyrraedd y garreg filltir, a’i bod yn “freuddwyd” ganddo erioed.

“Mae gan Swydd Durham dîm cryf a dw i wedi’i chael hi’n anodd torri drwodd i’r tîm cyntaf. Fe fu ambell gyfle, ond dw i ddim wedi manteisio arnyn nhw. Felly dwi’n teimlo’n fwy sefydlog yn y tîm erbyn hyn.

“Ond mae pobol yn curo ar y drws o hyd, felly dw i’n gwybod fod rhaid i fi barhau i sgorio rhediadau.”

Bydd y gêm yn ail-ddechrau ychydig yn hwyrach heddiw oherwydd y glaw y bore yma.