Nick Selman (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Fe fydd Morgannwg yn anelu am gyfanswm o dros 300 ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Durham yn Durham, yn ôl y batiwr agoriadol Nick Selman, oedd wedi sgorio 103.

Sgoriodd y chwaraewr 21 oed ei drydydd canred y tymor hwn – a’i ail yn erbyn Swydd Durham – wrth i Forgannwg gyrraedd 221-7 erbyn diwedd y diwrnod cyntaf.

Ychwanegodd yr Awstraliad 82 am y drydedd wiced gyda Colin Ingram, cyn i Forgannwg golli wicedi hwyr i roi llygedyn o obaith i Swydd Durham daro’n ôl.

‘Bowliwr o safon’

Cipiodd bowliwr cyflym Swydd Durham bum wiced am 47, ac fe ddywedodd Nick Selman ar ddiwedd y dydd ei fod e’n “fowliwr o safon”.

Ychwanegodd: “Wnaethon ni ddim trio sgorio mor araf â hynny, ond roedd digon o weithgarwch yn y llain ac fe fowlion nhw’n dda ac yn gywir i’w maeswyr ac roedden nhw’n rhoi pwysau arnon ni o hyd.

“Mae angen i fi fod yn fwy cyson a dw i’n credu ’mod i ar y ffordd. Unwaith dw i’n cyrraedd 20 neu 30, dw i’n gweithio’n galed i’w droi e’n sgôr mawr.

“Roedd hi’n siomedig i golli’r wicedi hynny ar y diwedd ond os gallwn ni wthio tuag at y 300, gobeithio y gallwn ni fowlio gystal â nhw.”

Sgorfwrdd