Mae Pacistan wedi cyrraedd rownd derfynol Tlws Pencampwyr yr ICC ar ôl rhoi crasfa o wyth wiced i Loegr yng Nghaerdydd.

Cipiodd Hasan Ali dair wiced am 35 ar ôl i Bacistan wahodd Lloegr i fatio’n gyntaf, ac fe gyrhaeddodd y Saeson 211 cyn cael eu bowlio allan ar ôl 49.5 pelawd.

Dim ond Joe Root (46) a Jonny Bairstow (43) oedd wedi cyrraedd eu pedwardegau gyda’r bat yn ystod perfformiad siomedig gan y Saeson.

Wrth gwrso 212 am y fuddugoliaeth, adeiladodd Azhar Ali (76) a Fakhar Zaman bartneriaeth agoriadol o 118, cyn i Azhar Ali a Babar Azam (38 heb fod allan) ychwanegu 55 am yr ail wiced.

Bydd Pacistan yn herio naill ai India neu Bangladesh yn y rownd derfynol ar gae’r Oval ddydd Sul.

Manylion

Goroesodd batwyr Lloegr ddau adolygiad cynnar yn y gêm ar ôl cael eu gwahodd i fatio’n gyntaf. Apeliodd bowliwr cyflym llaw chwith Pacistan, Junaid Khan yn erbyn penderfyniad y dyfarnwr nad oedd coes Jonny Bairstow o flaen y wiced. Ac yn fuan wedyn, cafodd penderfyniad fod coes Alex Hales o flaen y wiced.

Daeth cyfle hwyr yn niwedd y cyfnod clatsio cyntaf i Azhar Ali ddal Jonny Bairstow, ond methodd â dal ei afael ar y bêl ac roedd Lloegr yn 52-1 ar ôl deg pelawd. Fe allai’r batiwr fod wedi mynd unwaith eto yn yr unfed belawd ar bymtheg. Bu bron i’r slip ei ddal ond cafodd daliad arall ei ollwng. Fe aeth e yn y pen draw yn yr ail belawd ar bymtheg wrth iddo dynnu pelen gan Hasan Ali i Mohammad Hafeez am 43, a Lloegr yn 80-2.

Roedd Lloegr yn 101-2 yn yr ail belawd ar hugain, ac Eoin Morgan wedi cyrraedd y garreg filltir o 5,000 o rediadau mewn gemau undydd rhyngwladol, ac yntau wedi cynyrchioli Lloegr ac Iwerddon. Roedd apêl yn ei erbyn am ddaliad pan oedd e ar 43. Penderfynodd y dyfarnwr Rod Tucker ei fod e allan, ond fe ddangosodd y camerâu nad oedd e wedi taro’r bêl ac fe oroesodd e unwaith eto.

Collodd Joe Root ei wiced am 46 yn y seithfed pelawd ar hugain, wrth i belen gan Shadab Khan droelli a’i guro, a’r wicedwr Sarfraz Ahmed yn cymryd y daliad i dorri partneriaeth o 48 gydag Eoin Morgan am y drydedd wiced, a Lloegr yn 128-3.

Cwympodd y bedwaredd a’r bumed wicedi yn fuan wedyn. Ergydiodd Morgan yn wyllt ar yr ochr agored, a’r wicedwr Sarfraz Ahmed yn cipio’i ail ddaliad, oddi ar fowlio Hasan Ali, a Lloegr yn 141-4, a Jos Buttler y pumed batiwr allan gan roi trydydd daliad i’r wicedwr oddi ar Junaid Khan, a Lloegr mewn trafferth yn 148-5.

Cwympodd chweched wiced Lloegr ar 161 wrth i Mooen Ali (11) dynnu i’r ffin ar ochr y goes, a Fakhar Zaman yn neidio i gipio’r daliad oddi ar fowlio Junaid Khan. Aeth pethau o ddrwg i waeth i Loegr wrth i Adil Rashid gael ei redeg allan am saith, a Lloegr yn 181-7 ym mhelawd rhif 44.

Llwyddodd Lloegr, rywsut, i gyrraedd y 200 cyn colli eu hwythfed wiced, wrth i Ben Stokes daro’r bêl i’r awyr oddi ar ymyl ei fat i Mohammad Hafeez oddi ar fowlio Hasan Ali, a gipiodd dair wiced am 35. Cwympodd y nawfed wiced ar 206 wrth i Azhar Ali ddal Liam Plunkett oddi ar fowlio Rumman Raees am naw. Cafodd Mark Wood ei redeg allan i gau pen y mwdwl ar y batiad, a Lloegr yn 211 i gyd allan.

Ymateb Pacistan

Dechreuodd batwyr agoriadol Pacistan yn gadarn wrth iddyn nhw gyrraedd 89-0 ar ôl 15 pelawd, a bowlwyr Lloegr ddim yn edrych yn ddigon cryf i wrthsefyll y clatsio cynnar. Cyrhaeddodd Fakhar Zaman ei hanner canred yn yr ail belawd ar bymtheg wrth iddo adeiladu partneriaeth hollbwysig gydag Azhar Ali.

Roedd y bartneriaeth agoriadol o 118 yn un nodedig fel yr un cyntaf rhwng batwyr agoriadol Pacistan ers 2015, a’r cyntaf ganddyn nhw yn erbyn Lloegr ers 2010. Cyrhaeddodd Azhar Ali ei ail hanner canred yn y gystadleuaeth yn yr unfed belawd ar hugain. Aeth Lloegr at y trydydd dyfarnwr unwaith eto’n fuan wedyn, gan eu bod nhw’n credu bod Fakhar Zaman wedi taro’r bêl i’r wicedwr Jos Buttler, ond fe oroesodd yr apêl ar 57 heb fod allan.

Ond fe gafodd ei stympio gan Buttler yn fuan wedyn oddi ar fowlio Adil Rashid am 57. Erbyn hanner ffordd trwy eu pelawdau, roedd Pacistan yn 142-1 ac yn edrych yn hollol gyfforddus.

Roedd Azhar Ali a Babar Azam wedi ychwanegu 55 am yr ail wiced pan gafodd Azhar ei fowlio oddi ar ei fat gan Jake Ball am 76, ond roedd hi ar ben fel gornest i bob pwrpas erbyn hynny ac fe arweiniodd Babar Azam (38 heb fod allan) a Mohammad Hafeez (31 heb fod allan) eu tîm i’r fuddugoliaeth.