Mae cefnogwyr criced wedi bod yn rhoi gwers Gymraeg i’r sylwebydd adnabyddus Jonathan Agnew yn ystod cystadleuaeth Tlws Pencampwyr yr ICC yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Ar y ffordd i mewn i’r stadiwm, mae arwyddion Croeso Cymru yn dweud ‘Cymru – yn falch o groesawu’r byd criced i Gaerdydd’.

Wrth drydar llun o un o’r arwyddion, dywedodd sylwebydd Test Match Special fod “dau foi addfwyn o Gymru” wedi egluro wrtho pam mai ‘Gaerdydd’ sydd ar yr arwydd ac nid ‘Caerdydd’.

Ond fe ddywedodd ei fod e wedi anghofio’r eglurhad, ac mae hynny wedi arwain at drafodaeth ar ei ffrwd Twitter.

Dywedodd Jonathan Agnew mai’r “G ar ddechrau Caerdydd sydd yn fy synnu” – ac roedd digon o bobol yn barod i egluro’r treiglad meddal wrtho.

Ymateb Jonathan Agnew? “Wel, sôn am gymhleth!”