Mae’r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) wedi annog cefnogwyr i ddychwelyd tocynnau nad ydyn nhw eu hangen ar gyfer gêm gyn-derfynol Tlws Pencampwyr yr ICC rhwng Lloegr a Phacistan yng Nghaerdydd yfory.

Mae gwefan wedi’i sefydlu er mwyn i gefnogwyr gael dychwelyd eu tocynnau sbâr i’r trefnwyr a chael eu harian yn ôl, a byddan nhw’n gwerthu’r tocynnau i bobol sydd angen tocyn ar y diwrnod.

Yn ôl yr ICC, cafodd 37% o’r tocynnau ar gyfer y gêm eu gwerthu i gefnogwyr India cyn bod trefn y gemau wedi cael ei chadarnhau a dydy canran uchel o gefnogwyr ddim wedi nodi wrth brynu tocynnau pa dîm maen nhw’n ei gefnogi.

Mae gan unrhyw un sy’n dymuno gwerthu eu tocynnau tan ganol nos heno i wneud hynny drwy’r wefan swyddogol, ac mae’r ICC yn annog pobol i beidio â throi at wefannau answyddogol i brynu neu werthu tocynnau.

Mae modd prynu a gwerthu tocynnau drwy wefan yr ICC.

Eglurhad

Yn ôl yr ICC, maen nhw wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd tocynnau .

Ar hyn o bryd, mae 3,000 o docynnau wedi cael eu dychwelyd ar gyfer y gêm, ond maen nhw i gyd wedi cael eu prynu eto drwy’r wefan.

Dywedodd llefarydd fod yr ICC yn disgwyl i nifer fawr o docynnau gael eu dychwelyd unwaith y byddai cefnogwyr yn gwybod pwy fyddai’n chwarae yn y rownd gyn-derfynol yng Nghaerdydd.

‘Siomedig’

Yn ôl y llefarydd, cafodd 8,000 o docynnau eu prynu ar gyfer y pedair gêm yng Nghaerdydd oedd heb gael eu defnyddio na’u dychwelyd.

Roedd hynny, meddai’r llefarydd, yn “destun siom”.

Ond ychwanegodd fod yr ICC yn “gwneud popeth o fewn eu gallu” i sicrhau torf dda ar gyfer y gêm yfory, gan ychwanegu eu bod nhw “am weld pen-ôl ar bob sedd”.