Mae tîm criced Pacistan wedi cael eu cosbi am fowlio’n rhy araf yn ystod eu gêm yn erbyn Sri Lanca yng Nghaerdydd heddiw.

Mae eu buddugoliaeth o dair wiced yn golygu y byddan nhw’n herio Lloegr yn y brifddinas ddydd Mercher am le yn rownd derfynol Tlws Pencampwyr yr ICC.

Ond mae’r capten Sarfraz Ahmed wedi colli 20% o’i dâl ar gyfer y gêm ar ôl i’r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) benderfynu cosbi Pacistan am fowlio un belawd yn llai na’r disgwyl cyn yr amser penodedig.

Mae’r chwaraewyr eraill yn y tîm wedi colli 10% o’u tâl ar gyfer y gêm.

Plediodd Sarfraz Ahmed yn euog, ac felly ni chafodd gwrandawiad disgyblu ei gynnal.

Pe bai’r drosedd yn cael ei hailadrodd yn ystod y gystadleuaeth o dan arweiniad Sarfraz Ahmed, bydd e’n cael ei wahardd am un gêm – a cholli’r gêm derfynol o bosib.