Mae partneriaeth o 75 rhwng y capten Sarfraz Ahmed (61 heb fod allan) a Mohammad Amir wedi sicrhau lle i Bacistan yn rownd gyn-derfynol Tlws Pencampwyr yr ICC yng Nghaerdydd ddydd Mercher, wrth iddyn nhw guro Sri Lanca o dair wiced ar yr un cae heddiw. Byddan nhw’n wynebu Lloegr yn y gêm honno.

Fe dalodd penderfyniad Pacistan i wahodd Sri Lanca i fatio ar ei ganfed bron yn syth wrth i Danushka Gunathilaka golli ei wiced ar ôl 5.1 o belawdau. Fe yrrodd e’r bêl i’r ochr agored oddi ar fowlio’r bowliwr cyflym llaw chwith Junaid Khan i gyfeiriad Shoaib Malik, a’i dim yn 26-1. Yn ei dair pelawd cyntaf, bowliodd Junaid ddwy belawd ddi-sgôr.

Daeth Imad Wasim, y troellwr llaw chwith sy’n enedigol o Abertawe, i fowlio o ben Heol y Gadeirlan, ond dwy belawd yn unig barodd e ar ôl ildio 13 o rediadau tua diwedd y cyfnod clatsio. Cyrhaeddodd Niroshan Dickwella a Kusal Mendis bartneriaeth o 50 yn fuan wedyn wrth iddyn nhw ddechrau rhoi pwysau ar fowlwyr Pacistan.

Ond wrth i’r bowliwr cyflym Hasan Ali ddod i mewn i’r ymosod, fe drechodd e Kusal Mendis gyda phelen syth a chyflym i daro’r ffyn, a Sri Lanka yn 83-2 cyn diwedd y pymthegfed pelawd. Cipiodd Fahim Ashraf wiced gyda’i ail bêl mewn criced rhyngwladol, wrth iddo fe fowlio Dinesh Chandimal ddwy belen yn ddiweddarach, a Sri Lanca yn 83-3.

Wrth i Sri Lanca gyrraedd 100-3 yn yr ugeinfed pelawd, roedd Niroshan Dickwella wedi cyrraedd ei hanner canred oddi ar 51 o belenni, gan gynnig sefydlogrwydd i’r batiad wrth i’r wicedi gwympo’r pen arall.

Ond fe newidiodd y cyfan wrth i Bacistan gipio pedair wiced am chwech rhediad mewn 24 pelen, a Sri Lanca yn 167-7. Cafodd Angelo Mathews ei fowlio gan Mohammad Amir am 39, cyn i’r wicedwr Sarfraz Ahmed gipio daliad oddi ar fowlio Junaid Khan i waredu Dhananjaya De Silva am 1. Niroshan Dickwella oedd y chweched dyn allan, wrth i Sarfraz gipio ail ddaliad, y tro hwn oddi ar fowlio Mohammad Amir am 73. Y seithfed dyn allan oedd Thisara Perera am un rhediad, wrth iddo yrru pelen oddi ar ymyl ei fat i gyfeiriad Babar Azam yn y slip oddi ar Junaid Khan, a orffennodd ei ddeg pelawd gyda thair wiced am 40, gan gynnwys dwy wiced mewn tair pelawd ddi-sgôr.

Adeiladodd Asela Gunaratne a Suranga Lakmal bartneriaeth o 46 am yr wythfed wiced i sicrhau sgôr parchus i Sri Lanca, ond fe gafodd Lakmal ei fowlio gan Hasan Ali ym mhelawd rhif 45 i adael ei dîm yn 213-8. Cafodd Asela Gunaratne ei ddal gan Fakhar Zaman oddi ar fowlio Hasan Ali am 27 wrth i Sri Lanca golli eu nawfed wiced ar 232, a Nuwan Pradeep wedi’i dal gan Fahim Ashraf oddi ar ei fowlio’i hun wrth i Sri Lanca gael eu bowlio allan am 236.

Batio cryf gan Bacistan

Wrth gwrso 237 am y fuddugoliaeth, dechreuodd Pacistan yn bositif wrth i Fakhar Zaman daro hanner canred oddi ar 34 o belenni cyn cael ei ddal yn bachu’r bêl i lawr corn gwddf Asela Gunaratne oddi ar fowlio Nuwan Pradeep, a Sri Lanca’n 74-1 yn y deuddegfed pelawd. Aeth yr ail wiced yn fuan wedyn, wrth i Babar Azam dynnu’r bêl i gyfeiriad Dhananjaya de Silva oddi ar fowlio Nuwan Pradeep, wrth iddo gipio’i ail wiced, a Phacistan yn 92-2.

Ergyd ddiog yn syth i’r awyr gan Mohammad Hafeez arweiniodd at Bacistan yn colli eu trydedd wiced ar 95, wrth i Nuwan Pradeep ddal y batiwr oddi ar fowlio Thisara Perera am un. Azhar Ali oedd y pedwerydd batiwr allan, wrth iddo daro’r bêl yn syth at Kusal Mendis yn y slip oddi ar fowlio Suranga Lakmal am 34, a Phacistan yn 111-4 ar ôl 20 pelawd.

Pan gollodd Shoaib Malik ei wiced, roedd Pacistan wedi colli pum wiced o fewn 13.3 o belawdau ar ôl dechrau cadarn i’r batiad. Trodd hynny’n chwe wiced am 63 o fewn 14.2 o belawdau wrth i Imad Wasim gael ei ddal gan y wicedwr Niroshan Dickwella am bedwar, a Phacistan mewn trafferth am y tro cyntaf ar 137-6.

Daeth Fahim Ashraf i’r llain a tharo chwech wrth iddo fe sgorio’i rediadau cyntaf erioed mewn gêm undydd ryngwladol. Ond 15 yn unig sgoriodd e cyn iddo fe gael ei redeg allan, gyda chyfanswm Pacistan yn 162-7 ar ôl 30 pelawd.

Gallai Sarfraz Ahmed fod wedi cael ei ddal ar 38, ond fe ollyngodd Thisara Perera y bêl oddi ar fowlio Lasith Malinga ym mhelawd rhif 39, gyda’r sgôr yn 195-7. Ac fe ddaeth cyfle arall i’w ddal e pan oedd e’n 40 heb fod allan, ond fe ollyngodd yr eilydd o faeswr Seekkuge Prasana y bêl oddi ar yr un bowliwr unwaith eto ddwy belawd yn ddiweddarach. Fe gyrhaeddodd ei hanner canred yn ddiweddarach oddi ar 74 o belenni wrth i’w dîm symud yn nes at y fuddugoliaeth.

Arhosodd Sarfraz Ahmed a Mohammad Amir yn gadarn i adeiladu partneriaeth hollbwysig o 75 wrth i Bacistan gyrraedd y nod o fewn 45 pelawd.