Michael Hogan (Llun: golwg360)
Mae tîm criced Morgannwg wedi cipio ail fuddugoliaeth o’r bron yn y Bencampwriaeth, wrth iddyn nhw drechu Swydd Gaerwrangon oddi cartref o naw wiced ar gae New Road.

Cipiodd y capten Michael Hogan dair wiced yn gynnar yn ail fatiad Swydd Gaerwrangon wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 129, gan osod nod o 16 i’r Cymry ar y trydydd diwrnod.

Gorffennodd Michael Hogan gyda phum wiced am 38 – yr ail gêm yn olynol iddo fe gipio pum wiced mewn batiad yn dilyn y fuddugoliaeth dros Swydd Durham yn Abertawe.

Manylion

Ar ôl penderfynu bowlio ar y diwrnod cyntaf, fe fowliodd Morgannwg eu gwrthwynebwyr allan am 267 yn y batiad cyntaf, a dim ond Ben Cox (93) ac Ed Barnard (60) oedd wedi gallu cael y gorau ar y bowlwyr, wrth i Timm van der Gugten gipio pedair wiced am 66.

Roedd Morgannwg yn 58-6 yn eu batiad cyntaf cyn i Jacques Rudolph (111) a Chris Cooke (93) adeiladu partneriaeth o 168 am y seithfed wiced – gan dorri record flaenorol Jonathan Hughes a’r prif hyfforddwr presennol Robert Croft o 106 yn 2002.

Sgoriodd Andrew Salter 80 heb fod allan, ei gyfanswm gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf, ac fe sgoriodd Lukas Carey o Bontarddulais 54, ei hanner canred cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 381, gan sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf o 114.

Ond roedd Swydd Gaerwrangon yn anghyfforddus drwy gydol eu hail fatiad, wrth i Michael Hogan wneud niwed i’w gobeithion o aros yn ddi-guro, ac fe gwympodd y wicedi’n gyson wrth i’r Saeson grafu ychydig o flaenoriaeth erbyn diwedd eu hail fatiad.

Ond gyda nod o 16 i ennill, roedd hi’n gymharol gyfforddus i Forgannwg, a dim ond Nick Selman oedd wedi colli ei wiced cyn iddyn nhw gyrraedd y nod.

Tro ar fyd?

Dyma’r tro cyntaf i Forgannwg ennill dwy gêm Bencampwriaeth o’r bron ers mis Mehefin 2015.

Cafodd Michael Hogan ei benodi’n gapten cyn y gêm yn erbyn Swydd Durham ar ôl i Jacques Rudolph roi’r gorau iddi a chyhoeddi ei fod yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.

Roedd Swydd Gaerwrangon yn ddi-guro mewn pedair gêm Bencampwriaeth cyn yr wythnos hon, gan gynnwys buddugoliaeth o wyth wiced dros Forgannwg yng Nghaerdydd ar ddechrau’r tymor.

Mae ildio’r gapteniaeth wedi gwneud lles i Jacques Rudolph, oedd wedi taro ei ganred cyntaf yn y Bencampwriaeth ers dwy flynedd yn y gêm hon, ar ôl i Forgannwg fod yn 58-6 ar y diwrnod cyntaf.