Tarodd cyn-gapten Morgannwg, Jacques Rudolph ei ganred cyntaf ers dwy flynedd ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerwrangon ddoe, ac fe fydd y Cymry’n dechrau’r trydydd diwrnod ar y blaen o 80 o rediadau.

Dyma’i ganred cyntaf yn y Bencampwriaeth ers iddo gyrraedd y garreg filltir yn erbyn Swydd Gaerlŷr ar gae Grace Road yn 2015.

Partneriaethau

Adeiladodd Rudolph (111) a Chris Cooke (93) bartneriaeth seithfed wiced o 168 mewn 50 pelawd, gan dorri record y sir am y wiced honno yn erbyn Swydd Gaerwrangon – Jonathan Hughes a’r prif hyfforddwr presennol Robert Croft oedd â’r record flaenorol o 106 yn 2002.

Daeth partneriaeth fawr arall i Forgannwg, wrth i’r ddau Gymro Andrew Salter (80 heb fod allan) a Lukas Carey (54) sgorio 124 rhyngddyn nhw am y nawfed wiced – a’r ddau ohonyn nhw’n cyrraedd eu sgôr mwyaf erioed.

Roedd y partneriaethau’n allweddol i Forgannwg, oedd wedi bod yn 58-6 ar un adeg, wrth iddyn nhw gyrraedd 381 cyn cael eu bowlio allan, gan roi mantais batiad cyntaf iddyn nhw o 114.

Cipiodd y bowliwr cyflym Josh Tongue bum wiced o fewn pedair pelawd, gan orffen gyda ffigurau o chwe wiced am 97.

Roedd Swydd Gaerwrangon wedi cyrraedd 34-1 erbyn diwedd yr ail ddiwrnod, 80 o rediadau y tu ôl i Forgannwg.