Jacques Rudolph (Llun: Wikipedia)
Mae Jacques Rudolph a Chris Cooke wedi torri record tîm criced Morgannwg am y bartneriaeth seithfed wiced fwyaf erioed yng Nghaerwrangon, wrth iddyn nhw frwydro’n ôl yn y Bencampwriaeth ar gae New Road.

Roedd Morgannwg yn 76-6 ar ddechrau’r ail ddiwrnod ar ôl i Josh Tongue gipio pum wiced, ond mae partneriaeth o 144 wedi rhoi llygedyn o obaith i’r Cymry.

Mae’r bartneriaeth wedi torri’r record flaenorol o 106 gan Jonathan Hughes a phrif hyfforddwr presennol y tîm, Robert Croft yn 2002.

Erbyn amser cinio, roedd Jacques Rudolph yn 100 heb fod allan – canred rhif 51 ei yrfa ddosbarth cyntaf – ac fe gyrhaeddodd e’r nod oddi ar 158 o belenni gan daro 13 pedwar.

Mae Chris Cooke yn 81 heb fod allan, a Morgannwg yn 202-6, 65 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Swydd Gaerwrangon.