Er i gapten tîm Morgannwg rybuddio fod rhaid i berfformiadau’r batwyr wella, maen nhw’n canfod eu hunain mewn trafferth unwaith eto ar ddechrau ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yng Nghaerwrangon.

Sgoriodd y Saeson 267 yn eu batiad cyntaf, gyda Ben Cox yn taro 93, wrth i’r Iseldirwr Timm van der Gugten gipio pedair wiced.

Ond roedd Morgannwg yn 76-6 yn eu batiad cyntaf nhw erbyn diwedd y dydd.

Cipiodd y bowliwr cyflym Josh Tongue bum wiced o fewn pedair pelawd, ac roedd yr ysgrifen ar y mur bryd hynny.

Ar ôl bod yn 39-0, roedd Morgannwg yn 58-6 o fewn dim o dro ac ar ôl ildio’r gapteniaeth yn ddiweddar, mae Jacques Rudolph yn dal wrth y llain ar 49.