Mae capten tîm criced Lloegr, Eoin Morgan wedi dweud nad oes ganddo fe na’i dîm bryderon am ddiogelwch yng Nghaerdydd.

Daw ei sylwadau ar drothwy’r gêm rhwng Lloegr a Seland Newydd wrth i Gaerdydd groesawu Tlws Pencampwyr yr ICC i’r brifddinas yfory.

Mae’r ymosodiadau brawychol diweddar ym Manceinion a Llundain yn sicr o arwain at gwestiynau am ddiogelwch ar gyfer y gystadleuaeth, ac fe fydd yng nghefn meddyliau’r chwaraewyr wrth iddyn nhw fynd ar y cae.

Roedd Lloegr yn chwarae yn erbyn De Affrica yn Leeds ddeuddydd ar ôl yr ymosodiad ym Manceinion ar Fai 22, ac ar gae’r Oval yn Llundain, dafliad carreg o’r ymosodiad diweddaraf wrth iddyn nhw herio Bangladesh ddydd Iau, ddeuddydd cyn yr ymosodiadau yn Llundain.

‘Profiad hollol newydd’

Dywedodd Eoin Morgan am y digwyddiad diweddaraf yn Llundain: “Doedd e ddim yn bell o’r fan lle’r oedden ni’n aros ac yn amlwg, mae rhai o’r bois yn byw yn agos.

“Ry’n ni o hyd yn trafod y peth ac yn sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod nhw’n gallu siarad am y peth. Ry’n ni’n sicr yn cefnogi’r bois sy’n teimlo’r angen i drafod y peth, a gall unrhyw un â phryderon siarad â’n pennaeth diogelwch ni.

“Un o’r prif bethau yw sicrhau bod pawb yn ddiogel, naill ai gartref neu yn y gwesty. Roedd yn brofiad hollol newydd i bawb, ac yn rhywun dydyn nhw ddim am ei ailadrodd.”