Michael Hogan (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Bydd Michael Hogan yn arwain Morgannwg yn erbyn Swydd Durham ar gae San Helen yn Abertawe heddiw, yn dilyn y newyddion bod Jacques Rudolph wedi rhoi’r gorau iddi, a’i fod yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.

Fe fu Michael Hogan, sy’n enedigol o Awstralia ond sydd â phasport Prydeinig, yn rhan allweddol o’r uned fowlio ers pum mlynedd, gan gipio 227 o wicedi ar gyfartaledd o 23 cyn dechrau’r tymor – cyflawniad oedd wedi arwain at gael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yn 2013 a 2014.

Dywedodd nad yw’n mynd i geisio “datrys problemau’r byd” fel capten, ond mai’r nod yw “symud y clwb yn ei flaen”.

Y timau

Does dim newid yng ngharfan Morgannwg ar ôl eu gêm gyfartal yn erbyn Swydd Nottingham yng Nghaerdydd ddechrau’r wythnos.

Sêr y gêm honno oedd y batwyr Colin Ingram a Chris Cooke, ac mae’r perfformiad hwnnw wedi rhoi tipyn o hyder i Forgannwg, yn ôl Michael Hogan.

“Roedd yn berfformiad aruthrol, y ffordd wnaeth Colin a Chris chwarae ac fe roddodd hynny dipyn o hyder i’r bois, ynghyd â Timm [van der Gugten] yn cipio pum wiced yn ei gêm gyntaf yn ôl. Mae’r perfformiadau hynny wedi rhoi’r momentwm sydd ei angen arnon ni i symud ymlaen.”

Mae Swydd Durham yn dod i dde Cymru ar ôl cael crasfa yn erbyn Swydd Sussex yn eu gêm ddiwethaf, ac fe fydd ganddyn nhw bwynt i’w brofi, yn ôl Michael Hogan.

“Ond fe allai fod yn amser da i herio Swydd Durham. Maen nhw wedi bod oddi cartref ers sbel ac mae Mark Wood allan gyda Lloegr.

“Mae’n nhw’n dal i fod yn dîm da, felly byddwn ni’n canolbwyntio ar sicrhau bod ein gêm ni’n dda gyda’r bat a’r bêl, ac adeiladu ar yr wythnos diwethaf.”

Tîm Morgannwg: J Rudolph, N Selman, W Bragg, C Ingram, A Donald, D Lloyd, C Cooke, A Salter, M Hogan (capten), T van der Gugten, M de Lange

Tîm Swydd Durham: S Cook, K Jennings, C Steel, G Clark, P Collingwood (capten), R Pringle, P Coughlin, S Poynter, J Weighell, C Rushworth, G Harding

Sgorfwrdd