Jacques Rudolph
Mae capten tîm criced Morgannwg, Jacques Rudolph wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, fe gyhoeddodd hefyd ei fod yn rhoi’r gorau i arwain y tîm yn y Bencampwriaeth, ac fe fydd Michael Hogan yn ei ddisodli tan ddiwedd y tymor.

Ond fe fydd yn arwain y tîm yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast eleni.

Dros gyfnod o ddau ddegawd, mae Jacques Rudolph wedi sgorio 19 canred mewn gemau undydd, wrth iddo sgorio cyfanswm o fwy na 10,000 o rediadau mewn gemau undydd.

Daeth ei hanner canfed canred dosbarth cyntaf ddechrau’r tymor yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC.

Ar y llwyfan rhyngwladol, chwaraeodd e mewn 48 o gemau prawf, 43 o gemau undydd ac un gêm ugain pelawd dros Dde Affrica, cyn symud i Forgannwg o dan reolau Kolpak yn 2014.

Jacques Rudolph sydd â’r record am y cyfanswm unigol gorau erioed mewn gêm undydd i Forgannwg – 169 yn erbyn Swydd Sussex yn Hove.

Ac fe darodd ei ganred cyntaf mewn gêm ugain pelawd yn erbyn Swydd Gaerloyw yn 2015.

Roedd yn gapten ar dîm Morgannwg y llynedd pan gyrhaeddon nhw rownd wyth ola’r T20 Blast, ac fe arweiniodd y tîm i bedair buddugoliaeth o’r bron am y tro cyntaf ers 11 o flynyddoedd yn 2015.

‘Yr amser yn iawn’

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Jacques Rudolph fod yr “amser yn iawn” i roi’r gorau iddi.

“Dw i wedi bod yn ffodus dros ben i gael mwynhau chwarae’r gêm dw i’n ei charu ers ugain mlynedd ond ar ddiwedd yr haf, bydd yn amser i ganolbwyntio ar fenter newydd i ffwrdd o’r byd criced a threulio mwy o amser gyda fy nheulu ifanc.

“Mae’r pedair blynedd diwethaf gyda Morgannwg wedi bod yn rhai arbennig a dw i wedi mwynhau chwarae i’r clwb gan feithrin ysbryd a diwylliant gyda Robert Croft a Hugh Morris a dw i’n credu y bydd yn helpu’r clwb am flynyddoedd i ddod.”

‘Rhagorol’

Wrth dalu teyrnged i Jacques Rudolph, dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris ei fod e wedi cael “gyrfa ragorol ar y llwyfan rhyngwladol ac mewn criced domestig”.

Dywedodd ei fod e “wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol fel arweinydd” a’i fod yn “bleser gweithio gyda fe”.

Ychwanegodd ei fod e wedi “gosod esiampl” i’r to iau o Gymry ifainc yn y garfan.

Michael Hogan

Bydd Michael Hogan yn arwain Morgannwg yn eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Durham ar gae San Helen yn Abertawe ddydd Gwener.

Wrth ymateb i’w benodiad, dywedodd yr Awstraliad ei fod e’n “hapus ac wedi synnu” o gael galwad gan Robert Croft a Hugh Morris ddydd Llun.

“Ar y dechrau, ro’n i’n credu ’mod i wedi gwneud rhywbeth o’i le! Ond ro’n i wrth fy modd pan glywais i’r newyddion.

Fe fu Michael Hogan yn un o brif fowlwyr cyflym Morgannwg ers pum mlynedd, ac roedd e wedi cipio 227 o wicedi ar gyfartaledd o 23 cyn dechrau’r tymor hwn.

“Dw i wedi bod eisiau bod yn gapten ar dîm wrth i fy ngyrfa ddatblygu,” meddai wedyn. “Dw i ddim yn mynd i ddweud ’mod i’n mynd i ddatrys holl broblemau’r byd ond gyda mewnbwn yr hyfforddwr a’r chwaraewyr eraill, gobeithio y galla i symud y clwb yn ei flaen.”