Mae Colin Ingram a Chris Cooke wedi achub Morgannwg yng Nghaerdydd, ar ddiwrnod olaf eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Nottingham, sydd wedi gorffen yn gyfartal.

Batiodd y pâr drwy gydol y diwrnod olaf – cyfanswm o 84.1 o belawdau, wrth i Colin Ingram daro’i gyfanswm gorau erioed i Forgannwg, 155 heb fod allan. Roedd Cooke yn 113 heb fod allan, wrth iddo fe daro’i ganred cynta’r tymor hwn.

Hwn oedd ail ganred Colin Ingram yn y Bencampwriaeth, a’i bumed ym mhob cystadleuaeth yn 2017. Fe barodd ei fatiad saith munud yn brin o ddeg awr, ac fe fatiodd am gyfanswm o 153 o belawdau yn y pen draw.

Daeth ei fatiad oddi ar 427 o belenni, ac roedd yn cynnwys 14 pedwar mewn 593 o funudau.

Batiodd Chris Cooke am 324 o funudau, gan wynebu 262 o belenni, ac roedd ei fatiad yn cynnwys 17 pedwar ac un chwech.

Manylion

Dechreuodd Morgannwg y pedwerydd diwrnod ar 212-5, 49 o rediadau y tu ôl i’r ymwelwyr.Fe osododd y pâr record newydd am y chweched wiced i Forgannwg yn erbyn Swydd Nottingham, gan faeddu 131 Peter Walker a Don Ward yng Nghasnewydd yn 1961.

Sgoriodd Swydd Nottingham 448 yn eu batiad cyntaf, wrth i Rikki Wessels sgorio 120, ac roedd cyfraniad o 109 gan gyn-fyfyriwr Prifysgolion Caerdydd yr MCC, Jake Libby hefyd.

Perfformiodd batwyr Morgannwg yn siomedig yn eu batiad cyntaf – yr un hen stori unwaith eto – a dim ond y batiwr ifanc o Abertawe, Aneurin Donald (53) oedd wedi llwyddo i gyrraedd ei hanner canred.

Ar ôl canlyn ymlaen i’r ail fatiad, roedd Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion unwaith eto, yn 54-3 ond roedd partneriaethau o 62 rhwng Colin Ingram ac Aneurin Donald a 78 rhwng Ingram a David Lloyd wedi gosod y seiliau cyn i Chris Cooke ddod i’r llain.