Colin Ingram (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae Morgannwg yn wynebu cryn her ar bedwerydd diwrnod eu gêm yn erbyn Swydd Nottingham yn ail adran y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Ar ddechrau’r dydd, roedden nhw’n 212-5, 49 o rediadau y tu ôl i’r ymwelwyr, ac yn wynebu’r posibilrwydd cryf o orfod aros unwaith eto am eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth y tymor hwn.

Sgoriodd Swydd Nottingham 448 yn eu batiad cyntaf, wrth i Rikki Wessels sgorio 120, ac roedd cyfraniad o 109 gan gyn-fyfyriwr Prifysgolion Caerdydd yr MCC, Jake Libby hefyd.

Perfformiodd batwyr Morgannwg yn siomedig yn eu batiad cyntaf – yr un hen stori unwaith eto – a dim ond y batiwr ifanc o Abertawe, Aneurin Donald (53) oedd wedi llwyddo i gyrraedd ei hanner canred.

Ar ôl canlyn ymlaen i’r ail fatiad, roedd Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion unwaith eto, yn 54-3 ond mae’r batiwr o Dde Affrica, Colin Ingram wedi cynnig rhywfaint o obaith i’r Cymry achub y gêm, ac roedd e’n 72 heb fod allan ar ddechrau’r diwrnod olaf.

Sgorfwrdd