Timm van der Gugten (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Fe fydd Morgannwg yn ceisio cyfyngu Swydd Nottingham i lai na 400 yn eu gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd, yn ôl y bowliwr cyflym Timm van der Gugten.

Cipiodd yr Iseldirwr bedair wiced ar y diwrnod cyntaf, wrth i’r ymwelwyr orffen ar 335-6, gyda chyfraniadau o 109 gan gyn-fatiwr agoriadol Prifysgolion Caerdydd yr MCC, Jake Libby a 120 gan Rikki Wessels.

Ar y cae hwn dair blynedd yn ôl y chwaraeodd Jake Libby yn ei gêm ddosbarth cyntaf cyntaf erioed, tra ei fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Fetropolitan y brifddinas.

Ac fe arweiniodd ei berfformiadau at gytundeb gyda Swydd Nottingham, ac fe darodd e ganred yn ei gêm gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Sussex.

Fe ddaeth ei ganred brynhawn ddoe oddi ar 229 o belenni wrth i’r ymwelwyr daro’n ôl ar ôl dechrau digon siomedig yn y bore.

Roedden nhw’n 108-4 ar ôl cinio ond fe ddaeth partneriaeth o 123 rhwng Jake Libby a Rikki Wessels i achub y dydd.

Dydy Morgannwg ddim eto wedi ennill yr un o’u gemau pedwar diwrnod y tymor hwn, gan ailadrodd yr hyn wnaethon nhw yn yr un cyfnod ar ddechrau’r tymor diwethaf.

Iseldirwr yn hedfan

Ar ddiwedd y dydd, dywedodd y bowliwr cyflym Timm van der Gugten: “Roedd hi’n braf cael bowlio am gyfnod hir ac fe wnes i fwynhau. Roedd yn braf cael cipio wicedi hefyd.

“Roedd y llain yn eitha’ araf ac fe wnaethon ni drio, fel uned fowlio, i fowlio mor syth â phosib.

“Fe wnaethon ni hynny’n dda ar y dechrau, ond fe ddechreuodd pethau lithro i ffwrdd tua’r diwedd.

“Ond fe wnaethon ni bethau’n anodd ar adegau ac os gallwn ni fowlio’n dda yn y bore a chipio wicedi’n gynnar, gallen ni eu cyfyngu nhw i lai na 400.”

Chris Read (47 heb fod allan) a Ben Hutton (5 heb fod allan) sydd wrth y llain ar ddechrau’r ail ddiwrnod.