Jeremy Lawlor (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae Connor Brown a Jeremy Lawlor wedi cytuno ar gytundebau datblygu blwyddyn o hyd gyda Chlwb Criced Morgannwg.

Bu’r ddau yn aelodau o academi’r clwb ac mae’r ddau yn bresennol yn astudio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Mae batiwr Jeremy Lawlor, 21, o Gaerdydd wedi chwarae chwe gêm dosbarth cyntaf a llwyddodd sgorio 81 i Gaerdydd MCCU yn erbyn Hampshire y llynedd.

Daw’r cricedwr amryddawn Connor Brown, 19, o Gaerffili a chychwynnodd ei yrfa yn y dosbarth cyntaf trwy sgorio 30  yn erbyn Morgannwg  dros Gaerdydd MCCU.

“Ar hyn o bryd rydym yn ffodus bod gyda ni nifer o gricedwyr ifanc talentog yn dod trwy ein sustem ac mae Connor a Jeremy yn enghreifftiau da iawn o hynna,” meddai Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Criced Morgannwg, Hugh Morris.