San Helen (Llun: golwg360)
Mae tri chwaraewr o’r de-orllewin yng ngharfan Morgannwg wrth iddyn nhw herio Swydd Gaint yn San Helen ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl Griced Abertawe a De Orllewin Cymru, sydd wedi’i threfnu gan Orielwyr San Helen.

Mae Aneurin Donald o Abertawe, Lukas Carey o Bontarddulais ac Andrew Salter o Sir Benfro wedi’u cynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm olaf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, sy’n dechrau am 11 o’r gloch.

Yr un garfan sydd wedi ei dewis unwaith eto, gyda gobeithion Morgannwg o gyrraedd rownd yr wyth olaf yn fathemategol annhebygol.

Tair buddugoliaeth yn unig gafodd Morgannwg mewn saith gêm hyd yn hyn, a dim ond y tri uchaf yn y tabl fydd yn sicr o’u lle yn y rownd nesaf.

Rhai perfformiadau clodwiw

Er gwaetha’r ymgyrch siomedig i Forgannwg fel tîm, fe fu rhai perfformwyr cyson yn ystod y gystadleuaeth, gan gynnwys y ddau chwaraewr o Dde Affrica, y batiwr Colin Ingram a’r bowliwr cyflym Marchant de Lange.

Mae’r ddau wedi’u cynnwys ar restr y Chwaraewyr Mwyaf Gwerthfawr, gyda Marchant de Lange wedi cipio ffigurau gorau ei yrfa mewn gêm Rhestr A (5-49) yn erbyn Swydd Hampshire ddydd Gwener, ac fe gyrhaeddodd Colin Ingram y garreg filltir o 7,000 o rediadau mewn gemau 50 pelawd wrth iddo daro’i ail ganred yn y gystadleuaeth.

Mae disgwyl i Jacques Rudolph fod yn holliach i arwain Morgannwg yn dilyn anaf i’w law.

Yr ymwelwyr

Fe fydd y chwaraewr amryddawn Darren Stevens yn chwarae yn ei 300fed gêm i Swydd Gaint pe bai e’n cael ei ddewis, ac mae’r ymwelwyr hefyd wedi cynnwys cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, James Harris sydd hefyd yn hanu o Abertawe.

Bydd yr ŵyl griced yn parhau yn Abertawe ar Fai 26, wrth i Swydd Durham deithio i San Helen ar gyfer gêm pedwar diwrnod yn y Bencampwriaeth.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), D Lloyd, W Bragg, C Ingram, K Carlson, A Donald, C Cooke, C Meschede, A Salter, M de Lange, T van der Gugten, L Carey, M Hogan.

Carfan Swydd Gaint: S Northeast (capten), D Bell-Drummond, J Denly, S Dickson, D Stevens, A Blake, S Billings, C Haggett, M Coles, J Harris, J Tredwell, Imran Qayyum, C Hartley, I Thomas.

Sgorfwrdd