Colin Ingram a Chris Cooke wedi clatsio'u ffordd i fuddugoliaeth (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Cipiodd Morgannwg fuddugoliaeth annisgwyl dros Swydd Hampshire yn eu gêm 50 pelawd yng Nghwpan Royal London yn Southampton heddiw.

Er gwaetha’r fuddugoliaeth, mae gobeithion Morgannwg o gyrraedd rownd yr wyth olaf ar ben i bob pwrpas yn dilyn cystadleuaeth siomedig ar y cyfan.

Torrodd capten y Saeson, James Vince record y sir wrth iddo sgorio 178, gan dorri record 41 mlwydd oed Gordon Greenidge o 177, a Swydd Hampshire wedi cyrraedd 332-6 oddi ar 49 o belawdau. Hwn hefyd yw sgôr gorau gyrfa’r batiwr hyd yn hyn.

Roedd batiad James Vince yn cynnwys 18 pedwar a phump chwech oddi ar 138 o belenni.

Partneriaeth bedwaredd wiced o 221 rhwng James Vince a Liam Dawson (74) osododd y seiliau i’r Saeson, er i fowliwr cyflym Morgannwg, Marchant De Lange gipio pum wiced am 49, ei ffigurau bowlio gorau erioed mewn gêm undydd Rhestr A.

Colin Ingram a Chris Cooke yn cyfuno

Ond Colin Ingram (115) a Chris Cooke (59 heb fod allan) oedd yr arwyr i Forgannwg wrth iddyn nhw gwrso nod annisgwyl a sicrhau’r fuddugoliaeth oddi ar belen olaf ond un yr ornest.

Roedd Morgannwg wedi llithro i 151-4 oddi ar 31 o belawdau ond roedd llygedyn o obaith i’r Cymry yn dilyn partneriaeth o 92 rhwng Colin Ingram a Jacques Rudolph, ac fe ychwanegodd Ingram a Kiran Carlson 73.

Cyrhaeodd Colin Ingram ei ganred oddi ar 70 o belenni, gan gyrraedd y garreg filltir o 7,000 o rediadau Rhestr A yn ei yrfa.

Y trobwynt o safbwynt Morgannwg yn y pen draw oedd pelawd rhif 47, wrth i Chris Cooke sgorio 21 yn y belawd honno.

Collodd Colin Ingram ei wiced am 115 yn y pen draw, ond fe barhaodd Chris Cooke i glatsio a sicrhau mai naw rhediad oedd eu hangen oddi ar y belawd olaf.

Tarodd Chris Cooke chwech i ennill y gêm i Forgannwg o dair wiced yn y pen draw.

Bydd Morgannwg yn chwarae eu gêm olaf yn y gystadleuaeth hon ddydd Sul wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaint i San Helen yn Abertawe, fel rhan o Ŵyl Griced Abertawe a De Orllewin Cymru sy’n cael ei threfnu gan Orielwyr San Helen.