Ildiodd Marchant de Lange 93 rhediad mewn 10 pelawd
Colli’n drwm o 170 o rediadau oedd hanes Morgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf yng nghwpan 50 pelawd Royal London yng Nghaerdydd, wrth i’w tymor siomedig barhau.

Doedd dim lle unwaith eto i Owen Morgan, y Cymro Cymraeg o Bontarddulais, wrth i Forgannwg ddewis pedwar bowliwr cyflym a batiwr ychwanegol ar draul y troellwr llaw chwith.

Doedd batiad o 63 heb fod allan gan y batiwr ifanc o Gaerdydd, Kiran Carlson – ei gyfanswm unigol gorau erioed mewn gêm undydd – ddim yn ddigon i achub ei dîm.

Dychwelodd cyn-gapten Morgannwg, Jim Allenby i Gaerdydd i gosbi’r Cymry wrth iddo daro 144 heb fod allan – ei ganred cyntaf i Wlad yr Haf.

Dan bwysau 

Ar ôl colli Steven Davies am bedwar yn y drydedd pelawd, roedd Gwlad yr Haf dan rywfaint o bwysau yn gynnar yn y gêm, wrth iddyn nhw hefyd golli Peter Trego am 15 yn y degfed pelawd.

Ond daeth Allenby a Dean Elgar (96) ynghyd i adeiladu partneriaeth werthfawr o 87. Tarodd Elgar bum pedwar a dau chwech cyn colli ei wiced bedwar rhediad yn brin o’i ganred, wrth iddo gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio’r Iseldirwr Timm van der Gugten.

Parhaodd Gwlad yr Haf i gosbi Morgannwg, serch hynny, wrth i Allenby a James Hildreth (58 heb fod allan) fatio am weddill y pelawdau i ychwanegu 109 at y cyfanswm mewn cwta saith pelawd, a’r ymwelwyr yn 338-3 erbyn diwedd y batiad.

Roedd batiad Jim Allenby yn cynnwys 11 pedwar a chwech chwech.

Bowlio ddim yn ddigon da

Er mai’r bowlio sydd wedi achub Morgannwg i ryw raddau eleni, cafwyd un o’r perfformiadau gwaethaf mewn gêm undydd ers blynyddoedd gan Marchant de Lange, wrth iddo ildio 93 rhediad mewn 10 pelawd.

Roedd hi’n annhebygol cyn i’r un belen gael ei bowlio y byddai Morgannwg yn ennill, ac fe gafodd hynny ei danlinellu’n gynnar yn y batiad wrth iddyn nhw golli’r capten Jacques Rudolph, ac yntau wedi taro pelen lydan y tu allan i’r ffyn oddi ar Craig Overton i gyfeiriad y wicedwr Steven Davies, a Morgannwg yn 5-1.

Roedden nhw’n 19-2 o fewn wyth pelawd, wrth i Josh Davey ddarganfod coes David Lloyd o flaen y wiced am saith. A daeth trydedd wiced bedair pelawd yn ddiweddarach, wrth i Colin Ingram wyro’r bêl oddi ar ei goesau i Craig Overton ar ymyl y cylch ar ochr y goes oddi ar fowlio Josh Davey.

Llwyddodd y ddau Gymro, Will Bragg a Kiran Carlson i ychwanegu 55 at y cyfanswm cyn i Bragg gael ei stympio gan Steven Davies oddi ar fowlio Jim Allenby am 32, a’r Cymry mewn dyfroedd dyfnion yn 82-4.

Nofio yn erbyn y lli 

Aneurin Donald oedd y pumed batiwr i golli ei wiced, wedi’i fowlio gan Paul van Meekeren am 10, a’r Cymry’n nofio yn erbyn y lli yn 95-5 yn y drydedd pelawd ar hugain. Cyrhaeddodd Kiran Carlson ei hanner canred oddi ar 47 o belenni wrth iddo frwydro’n ddewr i achub y dydd. Ond fe gollodd yntau ei wiced am 63, wedi’i fowlio gan Tim Groenewald, a Morgannwg yn 137-6 yn y degfed pelawd ar hugain.

Dim ond dau rhediad gafodd eu hychwanegu cyn i Chris Cooke (21) gael ei fowlio gan Roelof van der Merwe. Marchant de Lange oedd y nesaf i fynd, wedi’i ddal gan yr eilydd o faeswr Johann Myburgh oddi ar fowlio Tim Groenewald, a’r gêm ar ben i bob pwrpas gyda’r Cymry’n 152-8.

Daeth nawfed wiced o fewn dim o dro, Craig Meschede wedi’i ddal gan Adam Hose oddi ar fowlio Roelof van der Merwe am naw.

Daeth y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr wrth i Timm van der Gugten gael ei ddal gan Craig Overton oddi ar fowlio van der Merwe am 11, a’r batiwr yn mynd am yr ergyd fawr i gyfeiriad y pafiliwn.

Wrth i dymor siomedig Morgannwg barhau, mae Gwlad yr Haf yn parhau’n ddi-guro yn y gystadleuaeth o dan arweiniad cyn-brif hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard.