Owen Morgan (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae’r Cymro Cymraeg o Bontarddulais, Owen Morgan yn gobeithio cadw ei le yn nhîm Morgannwg heddiw wrth i Wlad yr Haf deithio i Gaerdydd yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London.
Mae e’n un o saith Cymro mewn carfan o 14 o chwaraewyr.
Daeth y troellwr i mewn i’r tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Swydd Sussex ar ôl colli nifer o gemau yn y Bencampwriaeth wrth i’r dewiswyr ffafrio Andrew Salter.
Enillodd Morgannwg eu gornest gyntaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste ond ers hynny, maen nhw wedi colli’r ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Swydd Surrey a Swydd Sussex.
Gwlad yr Haf sydd ar frig Grŵp y De ar ôl enill eu tair gêm.
Fe allai’r Iseldirwr Timm van der Gugten gael ei gynnwys yn y tîm am y tro cyntaf eleni ar ôl gwella o anaf i’w ysgwydd, ac fe fydd tipyn yn ddibynnol ar berfformiad y capten Jacques Rudolph, un o’r ychydig berfformwyr cyson gyda’r bat hyd yn hyn eleni.
Dywedodd Owen Morgan: “Roedd hi’n braf chwarae fy ngêm gyntaf eleni, er i ni golli. Gobeithio y gallwn ni ennill a chael tipyn o rediad yn y gystadleuaeth gyda’r gêm nesaf yn erbyn Swydd Essex ymhen deuddydd.”
Mae’r ystadegau o blaid Morgannwg heddiw, gan nad ydyn nhw wedi colli yn erbyn Gwlad yr Haf mewn gêm undydd yng Nghaerdydd ers 2010.
Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), D Lloyd, W Bragg, C Ingram, C Cooke, A Donald, K Carlson, C Meschede, A Salter, M De Lange, M Hogan, L Carey, T van der Gugten, O Morgan
Carfan Gwlad yr Haf: J Allenby (capten), S Davies, P Trego, D Elgar, J Hildreth, J Myburgh, A Hose, R van der Merwe, C Overton, J Davey, M Waller, T Groenewald, P van Meekeren