Colin Ingram
Mae Clwb Criced Morgannwg wedi ymestyn cytundeb y batiwr o Dde Affrica, Colin Ingram tan 2019.

Ond dim ond mewn gemau undydd y bydd e ar gael ar ôl y tymor hwn, sy’n golygu y bydd e ar gael ar gyfer cystadlaethau’r T20 Blast a chystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn 2018 a 2019.

Ymunodd y batiwr llaw chwith â’r sir yn 2015 ar gytundeb Kolpak, ar ôl rhoi’r gorau i’w yrfa ryngwladol.

Sgoriodd e 1,712 o rediadau yn ei dymor cyntaf gyda’r sir, gan gynnwys pum canred ar draws pob fformat.

Er iddo fethu â chwarae’r un gêm pedwar diwrnod y tymor diwethaf oherwydd anaf i’w benglin, roedd e ymhlith perfformwyr gorau Morgannwg mewn gemau undydd, gan sgorio 502 o rediadau a tharo 29 chwech – gan ddod yn gyfartal â’r record ar gyfer y T20 Blast.

Mae e hefyd yn fowliwr gwerthfawr i’r sir mewn gemau undydd fel troellwr coes.

Derbyniodd ei gap sirol ddydd Sul cyn y gêm 50 pelawd yn erbyn Swydd Surrey yng Nghaerdydd, ac fe aeth ymlaen i daro 72 yn y gêm.

‘Croeso cynnes’

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Colin Ingram ei fod  wedi cael “croeso cynnes yn y clwb” a bod “ymestyn fy nghyfnod yma yng Nghymru’n benderfyniad hawdd”.

“Roedd cael derbyn fy nghap Morgannwg gan un o fawrion y clwb, Alan Jones yn dipyn o anrhydedd ac felly dw i’n benderfynol o wneud fy ngorau i’r clwb ac i fi fy hun.”

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris fod Colin Ingram yn “chwaraewr gwych” a’i fod yn “gaffaeliad” i’r sir.

“Mae e’n rhan fawr o’n carfan ni ar y cae ac yn yr ystafell newid. Roedd ei berfformiadau yn y T20 Blast y llynedd yn rhagorol ac fe brofodd ei fod e’n un o’r batwyr mwyaf dinistriol yn y gêm ac fe synnodd nifer o wrthwynebwyr gyda’r bêl hefyd.

“Bydd ei brofiad a’i arweiniad yn helpu i ddatblygu ein chwaraewyr iau a gobeithio y bydd hyn yn ein galluogi ni i adeiladu ar y llwyddiant gawson ni mewn gemau â’r bêl wen dros y tymhorau diwethaf fel y gallwn ni gystadlu am dlysau.”