Owen Morgan (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae’r Cymro Cymraeg, Owen Morgan, yn ôl yng ngharfan Morgannwg wrth i’w sylw droi at gystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, a’r gêm agoriadol yn erbyn Sir Gaerloyw ym Mryste heddiw.

Mae’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten hefyd wedi’i gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf y tymor hwn ar ôl gwella o anaf i’w ysgwydd.

Mae disgwyl i Lukas Carey o Bontarddulais gael ei gynnwys ar gyfer ei gêm undydd gyntaf i’r sir.

Yn wahanol i’r tymor diwethaf, fe fydd holl gemau grŵp y gystadleuaeth hon yn cael eu cynnal mewn un bloc yn hytrach na dau, ac mae’r capten Jacques Rudolph yn hyderus y bydd yn gyfle i anghofio’r dechrau gwael gafodd Morgannwg i’r tymor yn y Bencampwriaeth.

“Mae chwarae mewn un bloc yn golygu y gallwn ni ganolbwyntio ar un gystadleuaeth ar y tro, a dw i o hyd yn siarad am fomentwm.

“Y llynedd, fe ddechreuon ni’n dda iawn yn y gystadleuaeth a chael cwpwl o fuddugoliaethau mawr ond doedden ni ddim wedi gallu cynnal y momentwm yn ail hanner y gemau ac fe wnaethon ni lithro.

“Mae’r bois yn gyffro i gyd am chwarae criced gyda’r bêl wen eto a chael dechrau da, ac mae’r fformat hwn yn un ry’n ni’n ymfalchïo ynddo felly gobeithio y gallwn ni ennill ddydd Iau.”

Carfan Sir Gaerloyw: M Klinger (capten), P Mustard, C Dent, I Cockbain, G van Buuren, B Howell, J Taylor, K Noema-Barnett, T Smith, M Taylor, L Norwell, C Liddle, C Miles.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), D Lloyd, C Ingram, C Cooke, A Donald, K Carlson, C Meschede, O Morgan, A Salter, M de Lange, T van der Gugten, M Hogan, L Carey.