Aneurin Donald (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae Morgannwg wedi osgoi colli gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn Grace Road, wrth i’r Cymro o Abertawe, Aneurin Donald daro 66 heb fod allan.

Adeiladodd e bartneriaeth o 87 gyda Chris Cooke am y bumed wiced wrth i Forgannwg gwrso nod annhebygol o 355 oddi ar 57 o belawdau.

Roedd gan y Saeson lygedyn o obaith yn gynnar yn ail fatiad Morgannwg, wrth i Clint McKay ddarganfod coes Nick Selman o flaen y wiced, ac fe gollodd Colin Ingram a David Lloyd eu wicedi i Ben Raine wrth i Forgannwg lithro i 24-3.

Roedden nhw’n 57-4 pan ddaeth Aneurin Donald a Chris Cooke ynghyd yn y canol, ond fe lwyddon nhw i wrthsefyll y bowlio i sicrhau nad oedd Morgannwg yn wynebu siom ac embaras am y trydydd tro eleni.

Manylion

Bowliodd Morgannwg yn gyntaf ar lain oedd wedi dangos yn gymharol gyflym ei bod yn addas ar gyfer y batwyr, ac fe adeiladodd Paul Horton a Harry Dearden (87) bartneriaeth wiced gyntaf o 85 i osod y seiliau i Swydd Gaerlŷr yn gynnar yn y gêm.

Ychwanegodd Mark Pettini 69 at y cyfanswm mewn partneriaeth o 90 gyda Harry Dearden am y bedwaredd wiced, a 71 am y chweched wiced gyda Lewis Hill (32). Roedd y Saeson yn 359-9 pan ddaeth Clint McKay a Charlie Shreck ynghyd, ac fe ychwanegon nhw 61 am y wiced olaf i sicrhau pwyntiau batio llawn i’r Saeson.

Gorffennodd y bowliwr cyflym o Bontarddulais, Lukas Carey gyda phedair wiced am 127.

Gellid fod wedi maddau i gefnogwyr Morgannwg am eu disgwyliadau isel wrth i’r sir ddechrau ar eu batiad cyntaf, yn enwedig ar ôl eu perfformiadau diweddar, ond fe berfformiodd y batwyr yn well o lawer nag arfer.

Daeth 117 i’r agorwr Nick Selman – ei drydydd i’r sir – wrth iddo adeiladu partneriaeth wiced gyntaf o 87 gyda’r capten Jacques Rudolph (58).

Adeiladodd Nick Selman a Colin Ingram 161 am y drydedd wiced, wrth i’r batiwr o Dde Affrica sgorio 137 i arwain Morgannwg i 258-3. Ychwanegodd Colin Ingram a Chris Cooke 58 am y bumed wiced, cyn i Ingram a Kiran Carlson ychwanegu 63 am y chweched wiced. Sicrhaodd y gyfres honno o bartneriaethau fod Morgannwg yn llwyddo i sgorio chwech rhediad yn fwy na’r Saeson erbyn diwedd y batiad cyntaf.

Gorffennodd Ben Raine gyda ffigurau o 4-105, a Clint McKay gyda 3-95.

Sgoriodd Mark Pettini 110 heb fod allan yn ail fatiad y Saeson wrth iddyn nhw gyrraedd cyfanswm o 360-6 cyn cau’r batiad, a gosod nod o 355 i Forgannwg.

Ond roedd y nod yn ormod i’r Cymry yn y pen draw, ond bydd Morgannwg yn ddigon bodlon bod eu rhediad gwael wedi dod i ben.

Sylw’n troi at y gemau undydd

Mae’r gemau pedwar diwrnod yn dod i ben am y tro ac yn yr un modd â’r tymor diwethaf, bydd y bloc nesaf o gemau undydd yn gyfle i Forgannwg ganolbwyntio ar fformat gwahanol am gyfnod.

Bydd eu gêm nesaf yn erbyn Swydd Gaerloyw ddydd Iau yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London.