Colin Ingram (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae Morgannwg yn ôl yn y gêm yng Nghaerlŷr ar ôl i Colin Ingram daro 137 ar drydydd bore’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr.

Tarodd y batiwr o Dde Affrica 21 pedwar a dau chwech oddi ar 230 o belenni wrth i Forgannwg leihau blaenoriaeth y Saeson i 36 erbyn amser cinio.

Mae cyfres o bartneriaethau wedi helpu’r Cymry i gyrraedd 384-6, gyda’r capten Jacques Rudolph (58) a Nick Selman (117) yn arwain y ffordd wrth agor y batio gyda phartneriaeth o 83.

Adeiladodd Colin Ingram a Nick Selman bartneriaeth o 161 am y drydedd wiced, ac fe adeiladodd Ingram bartneriaethau o dros 60 yr un gyda Chris Cooke a Kiran Carlson cyn colli ei wiced oddi ar belen ola’r sesiwn.

Sgorfwrdd