Nick Selman (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Tarodd Nick Selman 117 – ei drydydd canred i Forgannwg – oddi ar 170 o belenni ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn Grace Road.

Daeth ei ganred cyntaf yn erbyn Swydd Northampton yn San Helen, Abertawe fis Awst y llynedd, wrth iddo gario’i fat am 122, ac fe ychwanegodd at hwnnw gyda 101 yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd fis yn ddiweddarach.

Adeiladodd yr Awstraliad 20 oed – sy’n cyfri fel chwaraewr Prydeinig – bartneriaeth wiced gyntaf o 83 gyda’r capten Jacques Rudolph, a phartneriaeth drydedd wiced o 161 gyda Colin Ingram (84 heb fod allan), wrth i Forgannwg orffen y dydd ar 281-4, 139 o rediadau y tu ôl i’r Saeson gyda chwe wiced yn weddill yn eu batiad cyntaf.

Roedd y Saeson yn 275-5 ar ddechrau’r dydd ond fe gollon nhw Lewis Hill a Mark Pettini yn gynnar wrth iddyn nhw lithro i 281-7 o fewn dim o dro, a Lukas Carey wedi ychwanegu dwy wiced at y ddwy gipiodd e ddoe, a’r Cymro o Bontarddulais yn gorffen gyda phedair wiced am 127.

Roedd cyfres o bartneriaethau ar ddiwedd batiad y Saeson yn golygu eu bod nhw wedi gallu cyrraedd cyfanswm parchus, gyda chyfraniadau o 45 gan Ben Raine a 41 heb fod allan gan Clint McKay.

Llwyddodd Clint McKay a Charlie Shreck i ychwanegu 61 at y cyfanswm am y wiced olaf wrth i Swydd Gaerlŷr gyrraedd 420 i gyd allan.

‘Prysur a phositif’

Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, dywedodd Nick Selman: “Roedd gyda ni feddylfryd lle’r oedden ni’n brysur ac yn bositif o’r cychwyn ac unwaith i ni ddod drwy’r cyfnod anodd, fe ddechreuon ni gael ein gwobrwyo.

“O’m safbwynt i, roedd hi’n drueni ’mod i allan yn y pen draw, ond gobeithio y gall Colin Ingram fynd ymlaen i gael [sgôr] mawr.

“Ry’n ni ar ei hôl hi o 139 gyda chwe wiced yn weddill, felly byddwn ni’n ceisio mynd y tu hwnt i’r ail bêl newydd ac adeiladu blaenoriaeth dda a’u rhoi nhw o dan bwysau.”

Sgorfwrdd