Mae tîm criced Morgannwg ar ei hôl hi o 55 o rediadau ar ddechrau trydydd diwrnod eu gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd.

Maen nhw’n ceisio osgoi colli o fatiad a mwy am yr ail waith yn olynol yn dilyn y siom yn Northampton yng ngêm agoriadol tymor y siroedd.

Maen nhw’n dechrau’r trydydd diwrnod ar 141 am dair wiced, a Colin Ingram ac Aneurin Donald sydd wrth y llain.

Pwysau

Mae Morgannwg dan bwysau unwaith eto yn dilyn partneriaeth pumed wiced o 116 rhwng Tom Kohler-Cadmore a Ben Cox.

Fe allai Tom Kohler-Cadmore (102) fod wedi colli ei wiced ar 95 ond methodd Nick Selman â dal ei afael ar y bêl cyn i’r batiwr fynd ymlaen i gyrraedd ei gant.

Roedd hanner canred yr un hefyd i Ed Barnard (59) a John Hastings (51).

Roedd Swydd Gaerwrangon i gyd allan am 403, gan sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf o 196.

Ail fatiad Morgannwg

Dechreuodd Morgannwg eu hail fatiad yn gadarn, gyda phartneriaeth wiced gyntaf o 74 rhwng y capten Jacques Rudolph a Nick Selman (42).

Ond fe gollon nhw ddwy wiced yn fuan wedyn, ac mae Colin Ingram (41 heb fod allan) ac Aneurin Donald (10 heb fod allan) wrth y llain ar ddechrau’r bore.