Lukas Carey (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae’r gêm Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd yn y fantol, yn ôl y bowliwr cyflym ifanc o Bontarddulais, Lukas Carey.

Roedd Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion ar ôl batio’n gyntaf ar ddiwrnod cynta’r gêm ddoe, gan lithro i 82 am saith wiced, ac roedden nhw’n 105-8 erbyn amser cinio.

Ond brwydrodd y Cymry’n ôl diolch i 88 gan y chwaraewr amryddawn o Lanelwy, David Lloyd, oedd wedi adeiladu partneriaeth o 68 gyda Carey am y nawfed wiced.

Yn y pen draw, llwyddodd Morgannwg i gyrraedd cyfanswm o 207 i gyd allan, ac erbyn diwedd y dydd, roedd yr ymwelwyr yn 180-4.

Yn ystod y bartneriaeth rhwng y ddau Gymro, cyrhaeddodd Lukas Carey 39, ei gyfanswm unigol gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf.

Gyda’r bêl yn eu dwylo, dechreuodd Morgannwg yn bositif gan gipio dwy wiced gyda dim ond un rhediad ar y sgorfwrdd i Swydd Gaerwrangon, a Lukas Carey wedi cipio un o’r ddwy wiced gyntaf.

Gorffennodd e’r diwrnod cyntaf gyda ffigurau o 2-42 oddi ar ddeg pelawd.

‘Taro’n ôl’

Dywedodd Lukas Carey wrth golwg360 ei fod yn gobeithio y gall Morgannwg daro’n ôl ar yr ail ddiwrnod.

“Roedd hi’n anodd mynd i mewn gan wybod ein bod ni wedi colli wyth wiced erbyn amser cinio.

“Dw i’n credu ’mod i a David Lloyd wedi trio bod yn bositif. Wnes i drio aros yr ochr draw tra bod David yn wynebu’r rhan fwyaf o belenni, ond wnaethon ni wynebu tua’r un faint yn y pen draw ac fe ddechreuon ni sgorio’n gyflym.

“Chwaraeodd David yn dda iawn o dan yr amgylchiadau i barhau i fatio.”

Cysondeb

Cysondeb fydd y gyfrinach i Forgannwg wrth iddyn nhw geisio cipio’r chwe wiced sy’n weddill o’r batiad cyntaf ar yr ail ddiwrnod, yn ôl Lukas Carey.

“Roedd y llain yn weddol. Roedd y bêl yn cyrraedd y bat yn dda. Roedd y llain yn addas ar gyfer y bêl newydd ac unwaith mae’r bêl yn heneiddio, mae’n dod yn haws felly rhaid i chi ei chadw hi yn y lle cywir a bod yn gyson.”

Pwysau

Yn ôl Lukas Carey, collodd Morgannwg y cyfle i roi’r ymwelwyr dan fwy o bwysau ar y diwrnod cyntaf.

“Dechreuon ni’n wych i’w cael nhw’n un rhediad am ddwy wiced. Dw i’n credu y gallen ni fod wedi rhoi mwy o bwysau arnyn nhw, fe wnaethon ni adael iddyn nhw lithro o’n gafael ni ond gobeithio y gallwn ni daro’n ôl, cael cwpwl o wicedi cynnar a datblygu o’r fan honno.

“Mae’r gêm yn y fantol.”

Sgorfwrdd Morgannwg v Swydd Gaerwrangon