Owen Morgan (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Yn ystod tymor criced 2017, fe fydd troellwr llaw chwith Morgannwg, Owen Morgan yn rhannu ei feddyliau mewn dyddiadur fideo ar gyfer Golwg360.

Mae ymgyrch Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd wedi dechrau, ond dydy’r Cymro Cymraeg o Bontarddulais ddim wedi cael ei gynnwys yn y tîm sy’n herio Swydd Northampton yn Northampton ar hyn o bryd.

Cafodd Owen Morgan ddechrau disglair i’w yrfa broffesiynol hanner ffordd drwy’r tymor diwethaf wrth iddo ymddangos yn nhîm Morgannwg am y tro cyntaf ar gae Hove yn Swydd Sussex.

Cyn i’r tymor ddod i ben, roedd e eisoes wedi sicrhau lle iddo fe ei hun yn y llyfrau hanes gyda chanred yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn New Road – y canred cyntaf erioed gan noswyliwr i Forgannwg.

Ym mhennod gynta’r dyddiadur, Dyddiadur y Daffodil, fe fu golwg360 yn gofyn iddo am ei atgofion o 2016 a’i obeithion ar gyfer 2017.

Sgorfwrdd Swydd Northampton v Morgannwg