Harry Podmore (Llun o wefan Clwb Criced Swydd Middlesex)
Mae Clwb Criced Morgannwg wedi arwyddo’r bowliwr cyflym o Swydd Middlesex, Harry Podmore ar fenthyg am gyfnod byr.

Chwaraeodd e mewn dwy gêm i Forgannwg ddechrau’r tymor diwethaf, gan gipio tair wiced am 59 yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste.

Bydd e’n llenwi bwlch am y tro wrth i Graham Wagg, Michael Hogan a Timm van der Gugten geisio gwella o anafiadau.

Fe gipiodd y bowliwr 22 oed bum wiced i’w sir ei hun yr wythnos diwethaf yn erbyn yr MCC yn Dubai.

Bydd e ar gael i Forgannwg am fis cynta’r tymor, ac mae e wedi’i gynnwys yn y garfan ar gyfer y daith i Northampton, lle mae’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yn dechrau yfory.

‘Dibynadwy’

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris fod Harry Podmore yn “ddibynadwy” y tymor diwethaf.

“Mae e wedi datblygu o fod yn gweithio ar raglen bowlwyr cyflym Lloegr i ddod yn fowliwr cyflym ifanc o’r radd flaenaf a fydd yn ychwanegu dyfnder i’n hadran fowlio cyflym ni.

‘Cyfle’

Mae Harry Podmore wedi diolch i Forgannwg am gynnig y cyfle i chwarae ar ddechrau’r tymor.

“Fe wnaeth Morgannwg roi fy nghyfle cyntaf i fi mewn criced dosbarth cyntaf a dw i’n ddiolchgar iddyn nhw am roi cyfle arall i fi chwarae criced â’r bêl goch.

“Yn amlwg gyda faint o fowlwyr cyflym sydd gyda Swydd Middlesex, gall fod yn anodd i gael gêm.

“Ond mae criw da o fois ifainc ym Morgannwg ac fe wnaethon nhw roi croeso mawr i fi y tro diwethaf, ac fe wnaeth hynny’r penderfyniad i ddychwelyd lawer haws i fi.”

Ychwanegodd y byddai’n croesawu’r cyfle i ymestyn ei gytundeb y tu hwnt i’r mis pe bai cyfle.