Dydy sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru “ddim yn opsiwn”, yn ôl Cynghorydd Iaith Gymraeg Criced Cymru, Aled Lewis.

Fe fu ymgyrch ar droed ers tro i sicrhau cynrychiolaeth i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol, a phenllanw’r ymgyrch, rai blynyddoedd yn ôl bellach, oedd trafodaeth ymhlith Aelodau’r Cynulliad a chynrychiolwyr o’r byd criced yng Nghymru, yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Yn y lleoliad hwnnw ddoe y cafodd digwyddiad arbennig ei gynnal i ddatgelu cynlluniau Clwb Criced Morgannwg a chorff Criced Cymru ar gyfer cystadleuaeth ugain pelawd newydd sbon a fydd yn dechrau yn 2020.

Y bwriad yw sicrhau bod un o’r wyth tîm wedi’i leoli yng nghartref Morgannwg yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd, ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd y tîm yn dwyn enw Caerdydd neu Gymru.

Serch hynny, mae Aled Lewis o’r farn y byddai sicrhau bod un o’r timau’n chwarae yng Nghaerdydd yn denu mwy o gefnogwyr o bob rhan o Gymru i’r byd criced.

“Dw i’n meddwl fod e’n gyfle gwych i Gymru gael ei chynrychioli ar y lefel ryngwladol,” meddai wrth golwg360.

“Gobeithio bydd gwylwyr ar draws y byd yn gallu gweld gemau’n cael eu chwarae yng Nghaerdydd gyda chwaraewyr yn dod o Gymru yn chwarae dros y tîm.”

Gwrthwynebu tîm Cymru

Arian yw’r prif reswm dros wrthwynebiad Morgannwg a Chriced Cymru i’r syniad o sefydlu tîm cenedlaethol, gan y byddai tîm o’r fath yn derbyn arian gan y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) yn hytrach na Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).

O wneud hynny, byddai Cymru’n derbyn statws gwlad gysylltiol (associate nation), sef ail haen y timau cenedlaethol sydd ar hyn o bryd yn cynnwys yr Alban ac Iwerddon.

Ychwanegodd Aled Lewis: “O ran cael tîm ar lefel ryngwladol sy’n cynrychioli Cymru yn erbyn timau fel Lloegr neu Iwerddon, dwi ddim yn meddwl bod hwnna’n opsiwn oherwydd bod y gefnogaeth a’r cyllid dan ni’n derbyn drwy’r ECB ddim yr un peth â tasen ni’n mynd trwy’r ICC.

“Dyw lefel y cyllid mae Iwerddon yn cael, er enghraifft, trwy fod yn associate nation ddim ar yr un lefel â beth y’n ni’n cael yng Nghymru drwy fod yn un o’r siroedd, gyda Morgannwg yn rhan o gynghrair y siroedd.

“Dyw e ddim yn opsiwn i ni oherwydd dw i’n meddwl bydd y criced, y cyllid a’r gefnogaeth yn cael eu heffeithio o greu tîm Cymru.”

Cymru a Lloegr yn un?

Mae criced yn unigryw yn y byd chwaraeon yn yr ystyr bod y Cymry a’r Saeson yn chwarae ochr yn ochr â’i gilydd ‘dros eu gwlad’.

Ond yn ôl Aled Lewis, mae cefnogwyr criced yng Nghymru yn ddigon parod i dderbyn hynny fel rhan o draddodiad y gamp.

“Dwi’n meddwl bod pobol yn cydnabod fod Lloegr yn meddwl Cymru a Lloegr er bod e ddim yn yr enw.

“Mae cefnogwyr Morgannwg a’r rhai sy’n dod i weld Lloegr yn chwarae yn y Swalec yn cydnabod fod e’n dîm maen nhw’n gallu ei gefnogi.

“Mae chwaraewyr Cymreig wedi cynrychioli Lloegr ar y lefel ucha’. Dwi’n meddwl bod y cefnogwyr yn ddigon parod i gydnabod fod e’n anffodus fod gyda ni ddim chwarae sy’n ddigon da i gynrychioli Lloegr ar y lefel ucha’.

“Dwi ddim yn meddwl bod perfformiadau Morgannwg hyd yn hyn yn haeddu bod y chwaraewyr yn cael eu trafod yn yr un drafodaeth â rhai o chwaraewyr eraill Lloegr.

“Mae lot o chwaraewyr ifainc talentog sy’n cael eu dewis dros dimau eraill Lloegr, fel y tîm dan 19.”