Y troellwr addawol, Owen Morgan (Llun Clwb Criced Morgannwg)
“Siomedig ond calonogol” oedd asesiad prif hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, Robert Croft o’r tymor diwethaf.

Siomedig yn yr ystyr fod y tîm wedi tangyflawni’n sylweddol yn y Bencampwriaeth ar ôl anelu am ddyrchafiad i’r Adran Gyntaf, a gorffen yn wythfed allan o naw.

Ond calonogol o safbwynt y ffaith fod cynifer o Gymry da  yn torri drwodd i’r tîm cyntaf erbyn hyn.

Cafodd nifer o’r chwaraewyr ifainc gyfleoedd i serennu’r tymor diwethaf oherwydd anafiadau i rai o’r chwaraewyr mwya’ profiadol, ac mae’n deg dweud iddyn nhw wneud y gorau o’r cyfleoedd hynny drwyddi draw.

Os yw Morgannwg am fod yn llwyddiannus y tymor hwn ym mhob fformat, fe allai cyfraniadau rhai o’r to iau fod yn allweddol.

Dw i’n sgrifennu hwn ddeuddydd ar ôl clywed am golli John Derrick, yr hyfforddwr oedd yn bennaf gyfrifol am feithrin rhai o’r talentau ifainc hyn wrth iddyn nhw ddringo’u ffordd i fyny timau Cymru ac i mewn i system sirol Morgannwg.

Pa well teyrnged iddo fe y tymor hwn na phe bai rhai o’r Cymry hynny roedd e wedi dylanwadu arnyn nhw’n allweddol i lwyddiant Morgannwg y tymor hwn ac i osod seiliau’r bennod nesaf yn hanes y sir?

Dyma bedwar i’w gwylio …

Owen Morgan

Y Cymro Cymraeg, fu’n chwarae i Bontarddulais dros y blynyddoedd diwethaf, oedd y noswyliwr cyntaf erioed i daro cant i Forgannwg pan gyflawnodd y gamp ar gae New Road yng Nghaerwrangon fis Awst y llynedd. Ac yntau wedi ennill ei le yn y tîm ugain pelawd yn wreiddiol fel troellwr llaw chwith, gyda’r bat y gwnaeth ei gyfraniad mwyaf i’r tîm yn ail hanner y tymor.

Ei 103 heb fod allan oedd ei ganred cyntaf i’r sir, a’r batiad hwnnw’n allweddol i sicrhau ail fuddugoliaeth Morgannwg yn unig yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf. Arhosodd e wrth y llain am fwy na phump awr, gan ddangos aeddfedrwydd a dycnwch a allai fod mor bwysig i Forgannwg yn y gêm pedwar diwrnod y tymor hwn.

Yn dilyn ymddeoliad y troellwr llaw chwith profiadol, Dean Cosker, ddiwedd y tymor diwethaf, fe allai Owen Morgan gael ei ystyried yn brif droellwr y tîm ac yntau ond yn 22 oed.

Aneurin Donald

Ben arall y llain ar y diwrnod hanesyddol hwnnw yn New Road y tymor diwethaf roedd y batiwr 24 oed o Abertawe, Aneurin Donald.

Roedd e ei hun wedi creu hanes fis cyn hynny, wrth daro 234 yn erbyn Swydd Derby ym Mae Colwyn. Fe bellach yw’r chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio dau gant i Forgannwg, gan guro record John Hopkins o bum mlynedd.

Fe wynebodd e 123 o belenni cyn cyrraedd y garreg filltir – yr un faint o belenni â’r canred dwbl cyflymaf yn hanes y gêm, gan efelychu camp cyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg, Ravi Shastri. Fe darodd e 26 pedwar a 15 chwech, oedd wedi torri record ei gyd-chwaraewr Graham Wagg o 11 chwech yn erbyn Swydd Surrey yn Guildford yn 2015.

Erbyn diwedd y tymor, roedd Aneurin Donald wedi sgorio dros 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf, y chwaraewr ieuengaf erioed i gyrraedd y garreg filltir i Forgannwg, gan guro record un o fawrion y sir, Matthew Maynard.

Kiran Carlson

Torri record hefyd wnaeth Kiran Carlson y tymor diwethaf, yn ei dymor cyntaf gyda’r sir. Y batiwr 18 oed o Gaerdydd bellach yw’r chwaraewr ieuengaf yn hanes Morgannwg i daro canred dosbarth cyntaf.

Adeg ei 101 heb fod allan yn erbyn Swydd Essex yn Chelmsford, roedd e 104 o ddiwrnodau’n iau na Mike Llewellyn, deilydd blaenorol y record oedd wedi sgorio 112 heb fod allan yn erbyn Prifysgol Rhydychen yn 1972.

Yn ystod y batiad, fe adeiladodd e ac Owen Morgan bartneriaeth o 128.

Yr hyn oedd fwya’ rhyfeddol am gamp Kiran Carlson oedd mai hon oedd ei drydedd gêm yn unig i’r sir. Yn ei gêm gyntaf ychydig wythnosau cyn hynny, fe gipiodd e bum wiced am 28, ac yntau ond yn droellwr achlysurol.

Lukas Carey

Daeth y bowliwr cyflym o Bontarddulais i amlygrwydd ar gae San Helen fis Awst y llynedd wrth iddo chwarae yn ei gêm gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Northampton.

Cafodd ei ychwanegu’n hwyr at y garfan ar gyfer y gêm a chipio tair wiced am 59 yn y batiad cyntaf, a phedair wiced am 92 yn yr ail fatiad.

Absenoldeb Graham Wagg, oedd yn cael cyfle i orffwys, oedd y prif reswm y cafodd Lukas Carey ei gynnwys yn y tîm ar gyfer y gêm ac fe chwaraeodd e mewn dwy gêm arall wedi hynny.

Cawn weld a all un o’r bowlwyr mwyaf addawol a chyffrous i ddod drwy rengoedd Morgannwg ers sawl blwyddyn adennill a chadw ei le yn y tîm y tymor hwn.

Dyddiau’r daffodil?

Ugain mlynedd yn ôl, fe enillodd Morgannwg dlws Pencampwriaeth y Siroedd, a arweiniodd at gyhoeddi llyfr ‘Daffodil Days’ gan Grahame Lloyd. Sibrydiwch hyn yn dawel, ond mae gobaith gyda’r criw yma o Gymry ifainc yn y tîm am ddilyniant i’r gyfrol honno dros y blynyddoedd i ddod.