Mae cyn-brif hyfforddwr a chwaraewr Clwb Criced Morgannwg, John Derrick wedi marw.

Roedd yn 54 oed ac wedi bod yn derbyn triniaeth ers rhai misoedd at diwmor ar ei ymennydd.

Fel chwaraewr amryddawn, chwaraeodd e mewn mwy na 200 o gemau i Forgannwg cyn troi ei law at hyfforddi.

Mae’n cael ei ystyried yn brif hyfforddwr mwyaf llwyddiannus y sir, wrth iddo ennill tlws y Gynghrair Undydd Genedlaethol yn 2002 a 2004, cyrraedd Diwrnod Ffeinals y T20 Blast yn 2004, ac fe arweiniodd ei dîm i ddyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth.

Ar ôl gadael Morgannwg, fe weithiodd i Fwrdd Criced Cymru fel Cyfarwyddwr Perfformiad Cenedlaethol, ac roedd yn ddadansoddwr ar raglenni criced BBC Cymru.