Clwb Criced Casnewydd (Llun: golwg360)
Mae Clwb Criced Casnewydd wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo dau o fawrion Clwb Criced Morgannwg ar gyfer tymor 2017.

Daeth cadarnhad gan Dean Cosker ei fod yn ymddeol o’r byd criced proffesiynol ar ddiwedd y tymor diwethaf, tra bod Mark Wallace wedi cyhoeddi ei ymddeoliad yntau cyn dechrau’r tymor newydd.

Tra bod Dean Cosker bellach wedi ei benodi’n Swyddog Cyswllt Criced gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), mae Mark Wallace yn gweithio fel Swyddog Datblygu Rhanbarthol gyda Chymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA).

Mae plant y ddau gricedwr yn chwarae i dimau ieuenctid Clwb Criced Casnewydd, ac maen nhw eisoes wedi bod yn hyfforddi’r timau hynny.

‘Eiconau’

Dywedodd Prif Hyfforddwr Clwb Criced Casnewydd, Mike Knight: “Ry’n ni wrth ein bodd o gael dau o eiconau Clwb Criced Morgannwg yn ein rhengoedd yng Nghasnewydd.

“Mae eu profiad a’u gwybodaeth am y gêm fel chwaraewyr heb ei ail, a byddan nhw’n esiampl wych i’n chwaraewyr ifainc niferus ddysgu ganddyn nhw.”

Casnewydd oedd pencampwyr Uwch Gynghrair De Cymru y llynedd.

‘Partneriaeth’

Wrth glywed bod Mark Wallace wedi ymuno â Chlwb Criced Casnewydd, dywedodd Dean Cosker y byddai’n “gyfle i ail-gynnau’r bartneriaeth gawson ni ym Morgannwg”.

Ychwanegodd Mark Wallace ei fod yn “benderfyniad hawdd” i ymuno â Chlwb Criced Casnewydd.

“Dw i wedi edmygu’r ffordd mae’r clwb yn parhau i ddatblygu’r safon ar gyfer criced ieuenctid ledled Cymru a dw i’n edrych ymlaen at gyfrannu at lwyddiant parhaus y clwb, o’r tîm cyntaf i’r tîm dan bump oed.”