David Lloyd
Mae’r cricedwr amryddawn o Lanelwy, David Lloyd wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg am ddwy flynedd arall, sy’n golygu y bydd yn aros gyda’r sir tan ddiwedd tymor 2019.

Ymunodd â’r sir yn 2012, gan ymddangos yn y tîm cyntaf am y tro cyntaf y tymor hwnnw fel batiwr a bowliwr lled-gyflym.

Tarodd e ganred dosbarth cyntaf am y tro cyntaf yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC y tymor diwethaf cyn taro’i ganred cyntaf yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaergaint, y trydydd cricedwr o’r gogledd ar ôl Wilf Wooller a Geoff Ellis i gyflawni’r gamp honno i’r sir.

Yn ystod y batiad hwnnw, adeiladodd e a Graham Wagg bartneriaeth o 215 – partneriaeth chweched wiced orau erioed Morgannwg yn erbyn Swydd Gaint.

Tarodd ei drydydd canred rai wythnosau’n ddiweddarach yn erbyn Swydd Sussex yn Hove.

Wrth daro 97 yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yn erbyn Swydd Gaint y llynedd, fe ddaeth o fewn trwch blewyn o efelychu record Ian Thomas am y canred cyflymaf erioed mewn gêm ugain pelawd i Forgannwg – oddi ar 50 o belenni.

Dywedodd David Lloyd ei fod e wrth ei fodd o gael derbyn y cytundeb newydd.

“Mae gyda ni gymysgedd da yn yr ystafell newid, cymysgedd da o chwaraewyr ifainc a rhai pobol brofiadol yn y tîm ac ry’n ni’n dechrau cymryd camau breision ymlaen.”

Strategaeth o feithrin cricedwyr o Gymru

Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris fod gan David Lloyd “ran fawr” i’w chwarae yn nyfodol y tîm.

“Mae e wedi gwneud cyfraniadau allweddol mewn gemau undydd ac yn y Bencampwriaeth yn enwedig gyda’r bat a’r bêl dros y 12 mis diwethaf, ac mae e’n elwa o weithio’n galed cyn i’r tymor ddechrau.

“Ein strategaeth yn y tymor hir yw cynhyrchu mwy o ddoniau o ogledd a de Cymru, felly mae’r newyddion yn hwb i’r clwb ac i gricedwyr ifainc sy’n breuddwydio am gael chwarae dros Forgannwg.”