A hithau’n hanner canrif ers gêm griced gyntaf Morgannwg yng Ngerddi Sophia, fe fydd cyflwyniad arbennig ar hanes criced yng Nghaerdydd yn Amgueddfa Griced Cymru CC4 heno.

Yr hanesydd Dr Andrew Hignell fydd yn cyflwyno’r noson, gan edrych ar rai o uchafbwyntiau’r sir yn eu cartref ers y gêm gyntaf un yn ystod tymor 1967, yn ogystal â rhai o gemau Morgannwg yn ystod eu tymor olaf ar Barc yr Arfau yn 1966.

Ddwy flynedd ar ôl symud i’w cartref newydd, enillodd Morgannwg Bencampwriaeth y Siroedd am yr ail waith yn eu hanes, a’r gêm dyngedfennol yn erbyn Swydd Gaerwrangon a seliodd y fuddugoliaeth wedi’i chynnal yng Ngerddi Sophia.

Bydd lluniau o’r diwrnod hwnnw yn cael eu dangos heno am y tro cyntaf erioed.