Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cadarnhau manylion nifer o gemau paratoadol cyn dechrau tymor criced 2017.

Bydd tîm Robert Croft yn teithio i Taunton ar Fawrth 23 i herio Gwlad yr Haf o dan arweiniad cyn-brif hyfforddwr a chapten Morgannwg, Matthew Maynard.

Bydd y Cymry yno am ddeuddydd, ond dydy hi ddim yn glir eto a fyddan nhw’n chwarae dwy gêm undydd neu un gêm ddeuddydd.

Byddan nhw’n herio Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd ar Fawrth 27, cyn gêm gyfeillgar dosbarth cyntaf yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC rhwng Mawrth 28 a 30.

Bydd gêm ddeuddydd gyfeillgar yn erbyn Swydd Nottingham yng Nghaerdydd yn dechrau ar Ebrill 2.

Bydd mynediad i’r gemau yng Nghaerdydd yn rhad ac am ddim, gydag amser dechrau’r gemau i’w gadarnhau.