Richie Benaud (Llun cyhoeddus)
Mae 311 o gefnogwyr Awstralia wedi talu teyrnged i’r diweddar sylwebydd a chyn-gapten y tîm criced cenedlaethol, Richie Benaud yn ystod y gêm brawf flynyddol yn Sydney.

Mae’r cefnogwyr – neu’r ‘Richies’ – yn awyddus i weld y gêm flynyddol yn dwyn enw Richie Benaud, fu farw’n 84 oed yn 2015.

Cynrychiolodd yr Awstraliad ei wlad mewn 53 o gemau prawf.

Gall unrhyw un dros 18 oed ymuno â chlwb cefnogwyr y ‘Richies’, ar yr amod eu bod nhw’n gwisgo dillad hufen, gwyn neu lwydfelyn.

Y gobaith yw mai gêm brawf y Lludw yn 2017-18 yn Sydney fydd y gêm flynyddol gyntaf yn enw Richie Benaud.