Alviro Petersen
Mae cyn-gapten tîm criced Morgannwg, Alviro Petersen wedi cael ei wahardd rhag chwarae am ddwy flynedd.

Cafwyd y batiwr o Dde Affrica yn euog o gelu’r ffaith fod cyd-chwaraewyr yn y tîm cenedlaethol yn trefnu canlyniadau gemau ymlaen llaw.

Ond doedd dim tystiolaeth i awgrymu ei fod yntau wedi trefnu canlyniadau gemau, a chafodd y cyhuddiad hwnnw ei roi o’r neilltu gan Fwrdd Criced De Affrica.

Mae’r honiadau’n ymwneud â chystadleuaeth ugain pelawd y Ram Slam yn Ne Affrica yn 2015, pan gafodd chwaraewr arall, Gulam Bodi ei wahardd am ugain mlynedd am ei ran yntau wrth drefnu canlyniadau gemau.

Plediodd Alviro Petersen yn euog i 13 cyhuddiad:

  • Pedwar cyhuddiad o fethu â datgelu manylion fod rhywun wedi gofyn iddo dwyllo;
  • Pedwar cyhuddiad o fethu â datgelu manylion fod cyd-chwaraewr wedi twyllo;
  • Pedwar cyhuddiad o fethu â chydymffurfio ag ymchwiliad drwy fethu â chyflwyno tystiolaeth gywir a chyflawn;
  • Un cyhuddiad o gelu a dinistrio gwybodaeth oedd yn berthnasol i’r ymchwiliad.

Cyhoeddodd Alviro Petersen y tymor diwethaf na fyddai’n dychwelyd i Swydd Gaerhirfryn y tymor nesaf, a hynny am “resymau teuluol”.

Fe fu’n chwarae i’r sir ers dau dymor.

Roedd yn gapten ar Forgannwg yn 2011 – penodiad a arweiniodd at gyfnod anodd yn hanes y sir, wrth i’r prif hyfforddwr Matthew Maynard, y cyn-gapten Jamie Dalrymple, y Llywydd Peter Walker a nifer o swyddogion eraill y sir adael eu swyddi yn sgil y penderfyniad.