Mae dau o gricedwyr Morgannwg yn cael eu cofio mewn gwasanaethau arbennig heddiw.

Bu farw Barry Lloyd yr wythnos diwethaf yn 63 oed ar ôl bod yn dioddef o ganser.

Bu farw Jim Pressdee yn 83 oed yn ei gartref yn Johannesburg ym mis Gorffennaf, ac mae ei wasanaeth coffa yn Newton yn Abertawe y bore ma.

Bydd lludw  cael eu claddu ar gae criced Y Mwmbwls yn y dyfodol ar ôl i’r teulu blannu coeden yno.

Ymhlith y siaradwyr yn ei wasanaeth fydd un o’i gyfoedion yn nhîm Morgannwg, Ossie Wheatley.

Jim Pressdee

Jim Pressdee yw’r chwaraewr ieuengaf i gynrychioli tîm Morgannwg ers yr Ail Ryfel Byd, ac yntau’n 16 oed adeg ei gêm gyntaf i’r sir yn 1949.

Yn ystod ei yrfa, fe sgoriodd 13,411 o rediadau, gan gipio 405 o wicedi wrth fagu partneriaeth fowlio gref gyda’i gyd-droellwr Don Shepherd.

Roedd yn aelod blaenllaw o dîm Morgannwg a drechodd Awstralia ar gae San Helen yn 1964.

Ond fe symudodd i Dde Affrica y flwyddyn ganlynol cyn mynd ymlaen i gynrychioli tîm North-East Transvaal cyn dod adref yn 1970.

Roedd yn gapten a hyfforddwr ar dîm cricedwyr ifainc Morgannwg yng Nghynghrair De Cymru yn 1980, gan helpu i fagu doniau nifer sylweddol o chwaraewyr a aeth ymlaen i gynrychioli’r sir yn ystod y 1990au.

Y tu hwnt i’r byd criced, roedd yn bêl-droediwr o fri, gan ennill cap dros dîm ysgolion Cymru cyn cynrychioli Abertawe.

Barry Lloyd

Bydd gwasanaeth coffa i Barry Lloyd yn Llangatwg y prynhawn yma.

Ymunodd y troellwr o Gastell-nedd â’r clwb ar ddechrau’r 1970au cyn mynd ymlaen i ddatblygu ei sgiliau gyda’r MCC yn 1971 a 1972.

Cafodd ei hyfforddi gan Len Muncer, un o gyn-droellwyr eraill Morgannwg cyn cael ei gyfle gydag ail dîm y sir yn 1971 a’r tîm cyntaf y flwyddyn ganlynol yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste.

Er ei fod yn athro o ran ei alwedigaeth, roedd yn neilltuo pob haf ar gyfer criced, ac fe gafodd ei gyfle yn y tîm undydd yn 1973 yn erbyn Swydd Sussex yn Hove.

Roedd yn aelod cyson o’r tîm erbyn 1977 ac fe dreuliodd saith tymor gyda’r sir, gan gipio 53 o wicedi dosbarth cyntaf yn 1981, gan gynnwys ffigurau gorau o 8-70 yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yng Nghaerdydd.

Fe gipiodd e 55 o wicedi dosbarth cyntaf yn 1982, gan gynnwys ffigurau undydd gorau ei yrfa, 4-26 yn erbyn y Prifysgolion Cyfun yng Nghaerdydd. Arweiniodd ei berfformiadau’r tymor hwnnw at gael ei enwi’n un o ddau gapten y sir ynghyd â Javed Miandad, ac ennill ei gap yn ogystal.

Pan ddaeth ei yrfa i ben yn 1984, roedd e wedi cipio 311 o wicedi, gan gynnwys 247 o wicedi dosbarth cyntaf.

Ar ôl ymddeol o’r gêm broffesiynol, fe dreuliodd gyfnodau gyda Chastell-nedd a Phontarddulais yng Nghynghrair De Cymru, ac fe gynrychiolodd dîm Siroedd Llai Cymru tan 1996.

Ei ferch Hannah oedd y cricedwr cyntaf o Gymru i gynrychioli Lloegr yng Nghaerdydd.

Roedd yn aelod gwerthfawr ac uchel ei barch o Glwb Criced Pontarddulais tan ei farwolaeth.