Pum niwrnod o griced yn Abertawe yn 2017
Mae Orielwyr San Helen yn ffodus o fod wedi sicrhau gemau rhwng Morgannwg a dwy sir ddeniadol yn 2017, yn ôl eu cadeirydd, John Williams.

Fe fydd Morgannwg yn dod ar daith flynyddol i Abertawe ar gyfer gêm undydd yn erbyn Swydd Gaint ar Fai 14, cyn wynebu Swydd Durham mewn gêm pedwar diwrnod sy’n dechrau ar Fai 26.

Yn ôl John Williams, roedd hi’n bwysig sicrhau bod San Helen yn cael pum niwrnod o griced unwaith eto eleni wrth i Forgannwg chwarae’r rhan fwyaf o’u gemau yn eu pencadlys yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.

Mae’r broses o drefnu’r calendr gemau’n un gymhleth ac yn un sy’n gofyn am dipyn o waith cydweithio rhwng yr holl siroedd.

Ond unwaith y cafodd y gemau eu cyhoeddi’r wythnos diwethaf, dechreuodd John Williams ar y gwaith y bu’n ei wneud ers 1972 o drefnu’r ŵyl griced flynyddol yn y de orllewin.

Dywedodd wrth Golwg360: “O ran Abertawe, o’dd hi’n bwysig bo ni’n cael pump diwrnod o griced a bod un o’r diwrnodau ’ny yn gêm undydd. Unwaith y’n ni’n colli gêm undydd am un tymor, fyddai e byth yn digwydd eto wedyn.

“O’n ni’n gwybod fod rhaid i ni fynd i fis Mai achos bo nhw wedi diraddio’r gemau 50 pelawd a’r Bencampwriaeth ac wedi’u rhoi nhw ar amser od ym mis Mai ar ddechrau’r tymor ac ar ddiwedd y tymor ym mis Medi.

“Beth maen nhw’n dweud yw fod gan blant fwy o ddiddordeb mewn gemau ugain pelawd. Un peth am Abertawe yw fod plant yn cael chwarae gemau bach eu hunain ar y cae rygbi, a dyw hwn ddim fel stadiwm concrid lle y’ch chi’n methu cymysgu. Dyna un peth o blaid chwarae mewn caeau bant o Stadiwm Swalec.”

Lletygarwch

Mae’r ffaith fod San Helen yn cael cynnal gemau yn erbyn Swydd Gaint a Swydd Durham – timau “deniadol”, meddai John Williams – yn mynd i fod o gymorth wrth werthu lletygarwch ar gyfer y pum niwrnod, sy’n hanfodol i sicrhau llwyddiant ariannol y digwyddiad.

Serch hynny, mae dechrau gêm Bencampwriaeth ar ddydd Gwener yn mynd i achosi problemau i’r Orielwyr yn ôl John Williams.

“Ni’n dibynnu yn Abertawe ran fwya’r amser ar werthu lletygarwch a dyma lle gallwn ni roi siec swmpus i Forgannwg. Dyw pobol ddim yn hoffi cael lletygarwch yn eu hamser eu hunain – maen nhw eisiau cael hwn ar ddiwrnodau gwaith yn lle diwedd yr wythnos.

Pan ddechreuodd gemau ar ddydd Mercher, o’dd gyda ni ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener. Ni ddim yn gwerthu lletygarwch ar y diwrnod olaf. O’dd gem wedyn ar ddydd Sul ac felly gallen ni werthu lletygarwch ar bedwar diwrnod. Mae’r gem eleni’n dechrau ar ddydd Gwener ac felly dyw’r bobol sydd fel arfer yn prynu ar ddydd Mercher a dydd Iau ddim yn mynd i ddod ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Mae’r pedwerydd dydd ar Wyl y Banc.”

Gêm ugain pelawd yn Abertawe?

Gyda mwy o bwyslais erbyn hyn ar gemau ugain pelawd a denu tyrfaoedd sylweddol i bencadlys y sir yng Nghaerdydd, bydd gan Orielwyr San Helen frwydr gynyddol ar eu dwylo dros y blynyddoedd nesaf i gadw criced yn Abertawe.

Ond yn ôl John Williams, fe fydden nhw’n barod i ystyried cynnal gemau undydd ar y cae ar lan y môr.

Ond byddai’n rhaid iddi fod yn gêm ychwanegol i’r arlwy blynyddol o gemau ‘tradoddiadol’ hefyd, ac fe fyddai’n rhaid ystyried cael gafael ar gyfleusterau ychwanegol er mwyn ateb y galw.

Ychwanegodd: “Yr unig bryd fydden ni’n moyn hwnna yw fel gêm ychwanegol i beth sydd gyda ni’n barod. Gêm glou yw honna, tair awr mae’n para. Dyw e ddim yn rhoi cyfle i chi werthu lot wrth y bar.

“Be sy ddim gyda ni yw cyfleusterau. Mae eisiau mwy o seddi. A bod yn deg, mae Prif Weithredwr Hugh Morris eisiau gweld y gemau ugain pelawd yn cael eu chwarae ym mhob cornel o Gymru.

“Mae pobol yn gorfod mynd i Gaerdydd wyth gwaith mewn wyth wythnos. Mae lle i farchnata gemau ugain pelawd mewn caeau eraill yn Abertawe, Bae Colwyn a falle Aberystwyth, hyd yn oed. Byddai’n ddeniadol iawn i bobol ddod i gemau fel’na.”