Fe fydd Clwb Criced Morgannwg yn cynnal eu gêm Bencampwriaeth gyntaf erioed o dan y llifoleuadau’r tymor nesaf.

Cafodd rhestr gemau’r gystadleuaeth pedwar diwrnod a chystadleuaeth 50 pelawd Royal London eu cyhoeddi am ganol nos neithiwr.

Bydd Morgannwg yn herio Prifysgolion Caerdydd yr MCC mewn gêm tri diwrnod gyfeillgar sy’n dechrau ar Fawrth 28.

Y Bencampwriaeth

Yn 2017, fe fydd wyth tîm yn yr adran gyntaf, a bydd Morgannwg ymhlith y 10 tîm yn yr ail adran.

Ond bydd pob tîm yn chwarae 14 o gemau, sy’n golygu na fydd rhai siroedd yn wynebu ei gilydd mwy nag unwaith.

Bydd ymgyrch Morgannwg yn dechrau oddi cartref yn Swydd Northampton ar Ebrill 7 ac am y tro cyntaf erioed, fe fydd rownd gyfan o gemau pedwar diwrnod yn cael eu cynnal o dan y llifoleuadau.

Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd, a bydd pêl binc yn cael ei defnyddio ar gyfer y gemau.

Bwriad yr arbrawf yw paratoi chwaraewyr rhyngwladol ar gyfer gêm Lloegr yn erbyn India’r Gorllewin yn Edgbaston, Swydd Warwick ym mis Awst.

Swydd Derby fydd gwrthwynebwyr Morgannwg ar gyfer y gêm arbrofol fydd yn dechrau ar Fehefin 26.

Nid dyma fydd y tro cyntaf i Forgannwg gymryd rhan mewn gêm o’r fath, fodd bynnag, ar ôl i arbrawf tebyg gael ei gynnal yn 2011 yng Nghaergaint. Y Cymry enillodd bryd hynny.

Bydd y rhan fwyaf o gemau pedwar diwrnod yn ystod y tymor yn dechrau ar ddydd Gwener neu ddydd Llun.

Gemau’r Bencampwriaeth

Dyddiad Gwrthwynebwyr Lleoliad
Ebrill 7 Swydd Northampton Northampton
Ebrill 14 Swydd Gaerwrangon Caerdydd
Ebrill 21 Swydd Gaerlŷr Caerlŷr
Mai 19 Swydd Nottingham Caerdydd
Mai 26 Swydd Durham Abertawe
Mehefin 9 Swydd Gaerwrangon Caerwrangon
Mehefin 19 Swydd Durham Chester-le-Street
Mehefin 26 Swydd Derby Caerdydd
Gorffennaf 3 Swydd Gaerloyw Cheltenham
Awst 28 Swydd Sussex Bae Colwyn
Medi 5 Swydd Derby Derby
Medi 12 Swydd Northampton Caerdydd
Medi 19 Swydd Gaerloyw Caerdydd
Medi 25 Swydd Gaint Caergaint

Bydd cystadleuaeth 50 pelawd Royal London yn dechrau ar Ebrill 27, gyda rownd yr wyth olaf ar Fehefin 13 ac 14, y rownd gyn-derfynol ar Fehefin 16 ac 17, a’r rownd derfynol yn Lord’s ar Orffennaf 1.

Cafodd rhestr gemau’r T20 Blast ei chyhoeddi brynhawn ddoe.

Gemau 50 pelawd Royal London

Dyddiad Gwrthwynebwyr Lleoliad
Ebrill 27 Swydd Gaerloyw Bryste
Ebrill 30 Swydd Surrey Caerdydd
Mai 2 Swydd Sussex Hove
Mai 5 Gwlad yr Haf Caerdydd
Mai 7 Swydd Essex Caerdydd
Mai 12 Swydd Hampshire Southampton
Mai 14 Swydd Gaint Abertawe

Caeau allanol

Y newyddion da i gefnogwyr Morgannwg yn y de orllewin a’r gogledd yw fod y traddodiad o gynnal gemau yn San Helen a Bae Colwyn yn parhau yn 2017.

Bydd gêm 50 pelawd yn erbyn Swydd Gaint yn Abertawe ar Fai 14, a gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Durham yn dechrau ar Fai 26.

Swydd Sussex fydd y gwrthwynebwyr yn y Bencampwriaeth ar gyfer y daith flynyddol i Fae Colwyn ar Awst 28.