Mae manylion cinio i gefnogi’r cyn-gricedwr a hyfforddwr John Derrick a’i deulu wedi cael eu cyhoeddi.

Mae Derrick, yr hyfforddwr mwyaf llwyddiannus yn nhermau tlysau yn hanes Clwb Criced Morgannwg a Rheolwr Perfformiad presennol Criced Cymru, yn gwella ar ôl cael triniaeth i dynnu tiwmor o’i ymennydd.

Mae Criced Cymru a Chymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) yn cefnogi’r digwyddiad ac yn annog cefnogwyr i brynu tocynnau.

Bydd y cinio’n cael ei gynnal yn stadiwm y SWALEC SSE nos Iau, Rhagfyr 8 ac mae modd prynu tocynnau am £45.

Mae’r pris yn cynnwys cinio tri chwrs ac adloniant ar ffurf siaradwr gwadd, cyn-ddewisydd Lloegr, Geoff Miller.

Wicedwr Morgannwg Mark Wallace a’r cyn-fatiwr Mike Powell sy’n trefnu’r noson ar ran y clwb.

Mae modd prynu tocynnau drwy ffonio’r clwb ar 02920 419320 neu drwy e-bostio holly.littleton@glamorgancricket.co.uk.

Mae modd cyfrannu at yr achos drwy fynd i’r wefan Justgiving neu drwy anfon siec yn daladwy i ‘PCA Benevolent Fund’ gan nodi enw John Derrick.