Mae Owen Morgan ymhlith pedwar o chwaraewyr ifainc Morgannwg sydd wedi derbyn cytundeb newydd
Mae pedwar o Gymry ifainc wedi cael cytundebau newydd gan Glwb Criced Morgannwg yn dilyn perfformiadau addawol yn eu tymor cyntaf gyda’r sir.

Mae Owen Morgan a Lukas Carey wedi derbyn cytundebau fydd yn eu cadw gyda’r sir am ddwy flynedd, tra bod Kiran Carlson a Jack Murphy wedi cael cytundebau blwyddyn yr un.

Chwaraeodd Morgan, sy’n Gymro Cymraeg o’r Hendy, ei gêm gyntaf yn erbyn Swydd Sussex yn Hove, ac fe darodd e ganred dosbarth cyntaf am y tro cyntaf oddi cartref yn erbyn Swydd Gaerwrangon fis diwethaf.

Cipiodd Carey sydd, fel Morgan, yn chwarae i Bontarddulais saith wiced yn ei gêm gyntaf yn erbyn Swydd Northampton yn San Helen – a’i wiced gyntaf ar ôl 11 o belenni’n unig.

Dywedodd Owen Morgan: “Mae’n deimlad gwych cael fy nghytundeb proffesiynol cyntaf gyda Morgannwg.

“Mae wedi bod yn amser hir yn dod. Dwi wedi gweithio’n galed ac mae’n anhygoel gweld hynny’n talu ffordd ar y cae.

“Mae nifer o chwaraewyr ifainc o Gymru’n dod drwodd ar y funud ac mae’n wych cael bod yn rhan o hynny.”

Ychwanegodd Lukas Carey ei bod yn “fraint” cael chwarae i Forgannwg.

“Roedd cael chwarae yn fy ngêm gyntaf yn foment falch iawn ac rwy wrth fy modd o gael derbyn cytundeb dwy flynedd. Gobeithio y galla i ad-dalu’r hyfforddwyr a’r staff am gael ffydd ynof fi, gyda pherfformiadau da.”

Chwaraeodd Murphy a Carlson eu gêm gyntaf i Forgannwg yn erbyn Pacistan A yng Nghasnewydd y tymor hwn.

Cipiodd Carlson bum wiced yn erbyn Swydd Northampton yn ei gêm dosbarth cyntaf cyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Northampton – y chwaraewr cyntaf i wneud hynny ers Darren Thomas yn 1992. Carlson hefyd yw’r chwaraewr ieuengaf i sgorio canred i’r sir, ac fe wnaeth hynny’r wythnos hon yn erbyn Swydd Essex yn Chelmsford.

Dywedodd Carlson ei bod yn “anrhydedd” cael derbyn cytundeb newydd.

“Roedd hi’n wych cael chwarae yn fy ngêm gyntaf eleni a gobeithio y galla i adeiladu ar hynny y flwyddyn nesaf.”

Y Cymry’n plesio’r Prif Weithredwr

Fel Cymro fu’n gapten ar Forgannwg yn ystod ei yrfa, mae Prif Weithredwr y sir, Hugh Morris yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu cricedwyr o Gymru ar gyfer y dyfodol.

“Mae Lukas ac Owen wedi gwneud yn eithriadol o dda y tymor hwn ac ynghyd â Kiran, byddan nhw’n cofio’u cyfraniadau yn eu gemau dosbarth cyntaf cyntaf am beth amser. Rwy’n siŵr y bydd Jack yn cael ei gyfle mewn criced dosbarth cyntaf cyn bo hir.

“Fe gawson ni gyfle i ddewis nifer o’r chwaraewyr ifainc eleni ac mae’r chwaraewyr hynny wedi codi’u dwylo ar adegau pwysig.

“Ry’n ni’n cynhyrchu cricedwyr cartref da sy’n codi drwy’r rhengoedd ar hyn o bryd, sy’n argoeli’n dda ar gyfer dyfodol cyffrous yn y clwb.

“Fel mae pobol fel Aneurin Donald a David Lloyd wedi dangos eleni, gallan nhw greu argraff yn y tîm cyntaf. Gobeithio y gwelwn ni lawer iawn mwy o’r chwaraewyr hyn a’u cyfoedion yn yr Academi yn chwarae i Forgannwg dros y blynyddoedd i ddod.”