Mae bowliwr cyflym Morgannwg, Craig Meschede wedi cipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf erioed, ar drydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Essex yn Chelmsford.

Cipiodd Meschede dair wiced ar yr ail ddiwrnod, ac fe ychwanegodd at ei gyfanswm y bore ma wrth i’r tîm cartref gael eu bowlio allan am 319, 33 o rediadau ar y blaen i Forgannwg.

Gorffennodd Meschede gyda phum wiced am 84.

Cipiodd Meschede wiced Graham Napier i’w gwneud hi’n bedair wrth i’r batiwr ddarganfod dwylo David Lloyd ar y ffin.

James Foster oedd y batiwr allan i roi pumed wiced i Meschede  wrth iddo ddarganfod dwylo’r capten Jacques Rudolph ar yr ochr agored.

Cipiodd Meschede dair wiced gyntaf Essex – Varun Chopra, Tom Westley a Nick Browne – yn gynnar yn eu batiad wrth iddyn nhw lithro i 34-3.

Ond tarodd Ryan ten Doeschate 117, James Foster 64 ac Adam Wheater 59 i sicrhau bod Swydd Essex yn cyrraedd cyfanswm parchus.

Erbyn amser cinio, roedd Morgannwg yn 36-1, a’r unig fatiwr allan mor belled yw Nick Selman.