Am y tro cyntaf erioed, mae cricedwr a gafodd ei eni yng Nghymru wedi cael chwarae criced rhyngwladol ar gae’r Swalec SSE yng Nghaerdydd.

Mae Imad Wasim, troellwr llaw chwith Pacistan, wedi’i gynnwys yn y tîm i herio Lloegr yn y Swalec SSE heddiw.

Mae perthynas Cymru a Lloegr o fewn endyd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (yr ECB) fel arfer yn golygu bod rhaid i unrhyw Gymro sy’n breuddwydio am gael chwarae criced ar y llwyfan rhyngwladol droi ei olygon at Loegr.

Ond doedd Imad byth yn mynd i orfod wynebu’r sefyllfa ryfedd o gynrychioli’r wlad drws nesaf.

Go brin ychwaith ei fod yn disgwyl mai fe fyddai’r chwaraewr cyntaf a gafodd ei eni yng Nghymru i chwarae criced rhyngwladol ar gae’r Swalec SSE yng Nghaerdydd.

Roedd rhieni Imad Wasim yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe pan gafodd y troellwr llaw chwith ei eni yn 1988. Ond ac yntau heb gyrraedd ei benblwydd yn dair oed, fe ddychwelodd y teulu i Islamabad ym Mhacistan.

Yn ôl Imad, mae e’n “Bacistani go iawn” a ddigwyddodd gael ei eni yng Nghymru. Mae rheolau’r Swyddfa Gartref yn golygu na fyddai e wedi gallu gwneud cais am basport Prydeinig, a fyddai wedi ei gymhwyso i chwarae dros Loegr. Ond ei freuddwyd er pan oedd e’n blentyn oedd cael chwarae dros Bacistan beth bynnag.

Dywedodd Imad wrth y wasg yr wythnos diwethaf: “Roedd gan fy nhad waith yno. Roedden ni yno am ryw ddwy flynedd. Roedd e’n gweithio i ryw gwmni, dw i ddim yn cofio’r enw ond roedd e’n beiriannydd.

“Does gen i ddim pasport Prydeinig. Alla i ddim chwarae dros Loegr.”

Roedd disgwyl i Imad ddilyn yn ôl troed ei rieni a mynd i’r brifysgol. Roedd ei fryd ar fod yn feddyg tan iddo gael ei enwi yng ngharfan dan 19 Pacistan. Fe ddatblygodd ei yrfa griced wrth iddo ddod yn chwaraewr amryddawn addawol, ac fe chwaraeodd e yng Nghwpan Ieuenctid y Byd yn 2006.

Yn 2007, fe darodd e hanner canred yn ei gêm gyntaf i Islamabad. Erbyn 2014, roedd e wedi sgorio canred dwbl, ac yntau erbyn hynny wedi chwarae i glybiau yn Lloegr ac Iwerddon. Cafodd ei gynnwys yn nhîm Pacistan am y tro cyntaf y llynedd mewn gêm undydd yn erbyn Sri Lanca, ac fe gafodd ei gynnwys yn y garfan ar gyfer Cwpan T20 y Byd yn gynharach eleni.

Taith ddigon cymysg gafodd Imad i wledydd Prydain dros y misoedd diwethaf. Ar ôl cipio pum wiced am 14 yn erbyn Iwerddon ar ddechrau’r daith, dim ond tair gêm allan o bedair chwaraeodd Imad yn erbyn Lloegr cyn cyrraedd Caerdydd.

Hyd yma gyda’r bat, mae e wedi sgorio 63, 57 heb fod allan a 17 heb fod allan gyda’r bat, a chipio dwy wiced am 38 ac un wiced am 50 gyda’r bêl.

Mae’n 15 mlynedd ers i Loegr ennill cyfres o 5-0. Zimbabwe oedd y gwrthwynebwyr bryd hynny yn 2001. Amser yn unig a ddengys a fydd Imad Wasim yn gallu sicrhau bod tîm y wlad lle cafodd ei fagu yn gallu difetha parti cymdogion y wlad lle cafodd ei eni.